Sylwadau 'anachronistaidd' Prifathro Rhuthun

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio sylwadau 'anachronistaidd' Prifathro Ysgol Rhuthun am y Gymraeg. 

Yn ôl canlyniadau arolwg barn YouGov a gafodd eu cyhoeddi'r llynedd, mae 63% o bobl Cymru eisiau gweld cwricwlwm addysg sy'n sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yn effeithiol. Mae'r Gymdeithas wrthi'n rhedeg ymgyrch dros 'addysg Gymraeg i bawb'. 

Wrth sôn am sylwadau'r Prifathro, dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg Ffred Ffransis:     

"Mae syniadau rhyfedd Mr Belfield bron yr un mor anachronistaidd â'r syniad y dylai fod ysgolion preifat yng Nghymru o hyd yn yr 21ain ganrif. Mae pob astudiaeth wrthrychol yn dangos bod plant sy'n dod yn rhugl yn Gymraeg yn perfformio'n well yn addysgol. Mae'n debyg nad yw wedi darllen y ddau adolygiad annibynnol ynglŷn â dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, sy'n pwysleisio'r manteision di-ri a ddaw wrth i ddisgyblion dod yn ddwyieithog. Dylai fe fynd yn ôl i'r ysgol i gael ei ail-addysgu. Byddwn ni'n gofyn i'r Gweinidog Addysg i adolygu bodolaeth ysgolion preifat fel yr un mae fe yn ei rhedeg."