Targedu Llywodraeth Cymru i bwyso am reoleiddio'r farchnad tai yng Nghymru

Wedi i aelodau o Gymdeithas yr Iaith godi posteri yn datgan "Deddf Eiddo - Dyma'r Cyfle" ar swyddfeydd y Llywodraeth yn Aberystwyth, Caerdydd a Chyffordd Llandudno dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
"Yn ein cymunedau Cymraeg, mae hwn yn fater brys iawn a rhaid pasio Deddf Eiddo yn y tymor seneddol hwn. Mae'n haelodau wedi gosod posteri mawr yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau'r Llywodraeth, a daw y neges yn weladwy wedyn trwy'r wlad yn arwain at rali fawr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ar ddydd Mercher 9ed Awst."

Daw hyn wedi i Siarter Cartrefi gyhoeddi adroddiad sy'n argymell "Rheoli'r Farchnad Tai yng Nghymru", sydd yn cyd-fynd yn union ag ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Eiddo.

Ychwanegodd Ffred Ffransis ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas:
"Rhaid i ni gynyddu'r ymgyrch i sicrhau fod Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi'n fuan a bod Bil o flaen y Senedd yn ystod y tymor hwn, yn 2024-25. Mae ein amheuon am fwriad y llywodraeth i fynd at wraidd y broblem dai wedi cynyddu yr wythnos hon yn sgil cyhoeddiad y Prif Weinidog na bydd Bil Eiddo o flaen y Senedd yn y flwyddyn nesaf. Dywed Mark Drakeford fod angen rhoi 'pobl o flaen elw' wrth gyflwyno Bil i ddiwygio gwasanaethau bysiau, ac y mae'r un angen o ran rheoli'r farchnad dai."

Mae lluniau o'r posteri ar swyddfeydd y Llywodraeth i'w gweld yma