Teyrnged i waith y Gweinidog Addysg ar addysg Gymraeg

Annwyl Olygydd, 

Hoffwn ychwanegu fy llais at y rhai sydd wedi canmol gwaith y Gweinidog Addysg Huw Lewis dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr, buodd y Gweinidog, yn ein cyfarfod diweddar gydae, yn deall bod angen camau radical er mwyn delio â'r argyfwng o ran dysgu Cymraeg i'n plant a'n pobl ifanc. 

Ar lefelau twf presennol, byddai'n cymryd dros 800 mlynedd nes i bob plentyn 7 mlwydd oed dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg - dros y 4 mlynedd diwethaf bu'r twf yn llai na 0.1% bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae pob plentyn yn derbyn gwersi yn y Gymraeg fel pwnc, ond mewn gwirionedd, mae dros 80% o'n pobl ifanc yn gadael ysgol heb y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn yr iaith. Mae hynny'n sgandal. 

Mewn cydweithrediad â'r Prif Weinidog, mae Huw Lewis wedi cytuno cyflwyno newid polisi drwy'r newidiadau yn y cwricwlwm sy'n dod i rym yn y blynyddoedd nesaf. Maent am ddileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith a symud at un continwwm – neu un llwybr – ar gyfer dysgu Cymraeg, i holl blant Cymru, p'un ai ydynt yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ai peidio. Bellach, mae hwnnw'n bolisi sydd wedi ei gefnogi gan aelodau o bob un o'r 4 plaid yn y Cynulliad. 

Rydyn ni'n mawr obeithio y bydd olynydd Huw Lewis fel Gweinidog Addysg – o ba bynnag plaid y daw yn adeiladu ar ei waith, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei normaleiddio fel cyfrwng addysg ar draws holl sefydliadau addysg y wlad drwy'r cwricwlwm newydd. 

Rydyn ni'n grediniol bod angen addysg cyfrwng Cymraeg ar bob un plentyn yn y wlad os ydyn ni am weld pob plentyn yn rhugl yn yr iaith. Diolch i Huw Lewis, rydyn ni'n dechrau gweld symudiad i'r cyfeiriad iawn, a fydd, gobeithio, yn arwain at ffyniant y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. 

Toni Schiavone 

Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg