Torfaen: Cefnogi canlyniad ymchwiliad y Comisiynydd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu adroddiad Comisiynydd y Gymraeg am bolisi iaith Cyngor Torfaen ar ôl i’r awdurdod lansio llinell ffôn uniaith Saesneg yn gynharach eleni.

Daeth yr ymchwiliad yn dilyn nifer o gwynion gan aelodau’r Gymdeithas yn Nhorfaen. Casglodd Cymdeithas yr Iaith ddeg o gwynion gwahanol am y Cyngor yn Nhorfaen a mynd â nhw at y Comisiynydd nol ym mis Gorffennaf. Yn bennaf ymysg y cwynion oedd nad oedd gwefan y cyngor ar gael yn Gymraeg.

Meddai Yvonne Balakrishnan, aelod o gell Torfaen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Ry’n ni’n croesawu’r adroddiad. Mae’r cyngor wedi cymryd rhai camau ymlaen yn ddiweddar, ond maen nhw’n dal i dorri ei gynllun iaith statudol. Felly, mae yno llawer i’w wneud o hyd ac mae gan aelodau’r Gymdeithas gwynion lu o hyd. Ein gobaith yw na fydd y Cyngor yn gwneud unrhywbeth ond cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg o nawr ymlaen. Mae’r problemau hyn yn dangos unwaith eto’r angen am hawliau clir yn y safonau iaith a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog fis nesaf.”

“Ry’n ni hefyd wedi siomi ei fod wedi cymryd misoedd o gwyno a chael cyfarfodydd cyn i’r Comisiynydd benderfynu cynnal ymchwiliad, a’i bod wedi penderfynu ymchwilio i mewn i un methiant yn unig. Roedd yn gwbl amlwg bod y Cyngor yn torri sawl agwedd o’r cynllun iaith.”

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog i gyflwyno hawliau clir i bobl dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn y safonau iaith newydd, fel rhan o becyn o chwe pholisi, a fyddai’n dangos ymateb digonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad ym marn y mudiad. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal Rali’r Cloeon yn Aberystwyth ar Ragfyr y 14eg er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’u cyfrifoldeb arnyn nhw i weithredu.