Ympryd yn cychwyn am le'r Gymraeg yn y Bil Cynllunio

Mae dros ugain o bobl wedi cychwyn ymprydio heddiw er mwyn tynnu sylw at yr angen i wella'r Bil Cynllunio er lles y Gymraeg cyn pleidlais yn y Cynulliad.

[Cliciwch yma i anfon ebost i gefnogi'r ymprydwyr]

Ymysg y bobl a fydd yn ymprydio am dros bedwar awr ar hugain, mae'r Prifardd Mererid Hopwood o Langynnwr, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan o Ferthyr Tudful, Toni Schiavone o Bandy Tudury Gweinidog Cen Llwyd o Dalgarreg a'r cerddor Cleif Harpwood o Gwmafan. 

Disgwylir y bydd y Llywodraeth yn derbyn gwelliant i'r Bil a fydd yn golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol yn y gyfundrefn, gan adael i gynghorwyr ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith iaith. Ond mae caredigion yr iaith yn mynnu bod  asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau unigol yn hanfodol er mwyn i system o'r fath weithio'n iawn - rhwng 2010 a 2012 dim ond 16 asesiad effaith iaith gafodd eu cynnal allan o gyfanswm o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio 

Mae'r ymgyrchwyr hefyd yn dweud bod rhaid newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod fel eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol. Mae niferoedd tai wedi bod yn bwnc llosg, yn enwedig mewn ardaloedd fel Wrecsam, Gwynedd a Chaerdydd.  

Mewn erthygl yn esbonio'r safiad, dywed Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Gan fod y Gweinidog wedi gwrthod nifer fawr o'r argymhellion trawsbleidiol i wella'r Bil, does dim dewis gennyn ni ond ymprydio er mwyn argyhoeddi'r Llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa a'r effaith bydd eu deddfwriaeth yn ei chael ar y Gymraeg fel iaith gymunedol naturiol. Prif fwriad deddfwriaeth y Llywodraeth yw canoli grym a lleihau democratiaeth er lles y datblygwyr mawrion, yn hytrach na gwasanaethu cymunedau. Mae'r sefyllfa'n un ddifrifol, o'n safbwynt ni sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg, ie, ond hefyd o edrych yn wrthrychol ar sefyllfa democratiaeth, anghydraddoldeb a'r amgylchedd yng Nghymru. Rydyn ni'n gwneud y safiad hwn er lles y cenedlaethau i ddod, ac er mwyn lleisio barn yn erbyn methiant ein gwleidyddion i herio peryglon y farchnad rydd.  

Mae cynigion y Bil i ganoli grym ar lefel ranbarthol, a rhoi mwy o rym yn nwylo swyddogion anetholedig yn adlewyrchu'r hyn mae'r cwmnïau mawrion wedi bod yn lobïo amdano. Yn ein trafodaethau helaeth am y Bil, cafodd ei ddisgrifio gan un cyfreithiwr fel 'siarter i ddatblygwyr'.  Nid oes yr un cymal yn y Bil a fyddai'n ceisio rheoli prisiau rhent na thai er mwyn taclo tlodi ac er mwyn atal all-fudiad o bobl ifanc a rhagor o dai anfforddiadwy 

"Yn hytrach, maen nhw'n derbyn agenda'r datblygwyr, a'r gred mai adeiladu tai anfforddiadwy di-ri yw'r unig ffordd ymlaen. Yn ogystal, oherwydd pwysau gan ddatblygwyr mawrion, nid yw'r Llywodraeth yn fodlon sefydlu, yn unol ag argymhellion trawsbleidiol a chefnogaeth nifer ar feinciau cefn y blaid Lafur, system o asesiadau effaith iaith ar gyfer ceisiadau unigol. Dydyn nhw ddim am newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod chwaith: mae'n well ganddyn nhw ildio i'r hyn sy'n gwneud elw i'r datblygwyr yn hytrach na datblygu yn ôl anghenion lleol.” 

Ychwanegodd y Prifardd Mererid Hopwood: 

Mae'r Mesur Cynllunio yn ateb gofynion datblygwyr mawrion ac nid anghenion y Gymraeg mewn cymunedau lleol. Rwyf yn gwrthwynebu fel bydd y bleidlais ar 5ed Mai yn rhoi rhwydd hynt i gyflymu a chanoli'r broses. Bydd grym yn cael ei roi yn nwylo llai o bobl drwy sefydlu paneli rhanbarthol gyda nifer o'u haelodau yn rhai anetholedig. Mae dal angen i'r Mesur gynnwys gorfodaeth i gynnal asesiadau iaith ar ddatblygiadau sylweddol a bod angen i awdurdodau lleol osod targedau tai yn unol ag anghenion lleol yn hytrach na gorfod derbyn amcan ffigyrau canolog.”  

Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio prynhawn dydd Mawrth 5ed o Fai, bydd rhai o'r ymprydwyr, gan gynnwys Toni Schiavone, Cen Llwyd a Tamsin Davies yn mynd i'r Senedd i wylio'r ddadl a'r bleidlais.