Ysgol Pentrecelyn - cefnogi apelio i'r llysoedd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion bod Cyngor Sir Ddinbych am fwrw ymlaen gyda chynllun i israddio addysg Gymraeg drwy gau Ysgol Pentrecelyn. 

Meddai llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg Ffred Ffransis: 

"Mae'r penderfyniad hwn mor afresymol; does dim rhesymeg iddo. Mae'n chwerthinllyd bod yr awdurdod lleol yn dadlau bod addysg ddwyieithog yn well i'r Gymraeg nag addysg Gymraeg. Hefyd, maen nhw'n ymgynghori ar gynnig nad yw'n bodoli eto. Felly, rydyn ni'n cefnogi'r rhieni yn eu hymdrech i geisio am adolygiad barnwrol, a byddwn ni'n ceisio codi arian tuag at eu costau cyfreithiol."