Morgannwg Gwent

Jill Evans yn y llys dros S4C

'Cyfle i ddweud diolch', dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd).

Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr, megis y canwr Bryn Fôn a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wedi datgan eu bwriad i wrthod talu'r drwydded deledu.

Gwylnos S4C: ymgyrchwyr yn ceisio deffro'r rheolwyr

Mae grwp o ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwylnos o flaen pencadlys S4C heno i dynnu sylw at y bygythiadau i'r sianel.Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll lan yn erbyn cynlluniau'r BBC a'r Llywodraeth a ddaw â'r sianel fel darlledwr annibynnol i ben.

Carcharor dros S4C yn picedi cyfarfod Jeremy Hunt

Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedi cyfarfod ysgrifennydd diwylliant llywodraeth San Steffan, Jeremy Hunt, yng Nghasnewydd heddiw, er mwyn dweud wrtho fod rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus.

Wythnos yn y carchar dros S4C

jamie-bevan-caerdydd-230811-bach.jpg

Fe gafodd ymgyrchydd iaith ei garcharu am wythnos heddiw (Dydd Mawrth, Awst 23) ar ôl iddo gymryd rhan mewn protest dros ddyfodol S4C.

Dedfrydu 2 ymgyrchydd iaith - Achos llys cyntaf dros S4C ers 30 mlynedd

achos-jamie-heledd-bach2.jpgMae dau ymgyrchydd iaith wedi eu dedfrydu heddiw yn yr achos llys cyntaf yn ymwneud ag S4C ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. Daeth torf o dros gant o bobl draw i Lys Ynadon Caerdydd i ddatgan eu cefnogaeth. Cafodd Jamie Bevan orchymyn i dalu iawndal o £1,020, costau o £120 a gorchymyn 'curfew' am 28 niwrnod.

Protest S4C - Rhaid i Cyw Fyw!

rhaid-i-cyw-fyw.jpgBydd bywyd y cymeriad teledu Cyw yn cael ei roi yn y fantol wrth i'r ymgyrch i achub S4C gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe heddiw (Dydd Mawrth, Mai 31).Ymysg siaradwyr y brotest bydd Bethan Jenkins AC, llefarydd darlledu Plaid Cymru, a Keith Davies AC ar ran y blaid Lafur.

Sianel '62 - sianel deledu Gymraeg newydd!

Bydd sianel deledu Cymraeg newydd yn mynd yn fyw heddiw (Dydd Llun, Mai 30) mewn ymdrech i dynnu sylw at y bygythiadau i S4C.Y cyflwynydd teledu Angharad Mair, fydd yn lansio "Sianel 62" sy'n darlledu o babell Cymdeithas yr Iaith ac ar-lein yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni.

Digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith yn 'Steddfod yr Urdd

Rhwng lansio sianel newydd, ymweliad gan 'Jeremy Hunt' a sawl digwyddiad arall bydd yn wythnos brysur iawn ym mhabell y Gymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd tn Abertawe eleni, ac rydym yn eich gwahodd chi i fod yn rhan o'n holl weithgareddau dros yr wythnos:Dydd Llun 30ain Mai / 1pm / Pabell Cymdeithas yr IaithLansio Sianel '62 gydag Angharad MairBydd gan Gymdeithas yr Iaith ei sianel deledu ei hun ar gyfer wythnos yr Eisteddfod.

S4C - Ymgyrchwyr o flaen y llys

Yn dilyn gwrandawiad yn llys ynadon Caerdydd heddiw cyhoeddwyd y bydd achos prawf dau ymgyrchydd iaith a weithredodd fel rhan o'r ymgyrch i achub S4C yn cael ei gynnal ddechrau mis Gorffennaf (2yh, Gorffennaf 7fed, 2011).

Honnir i'r ddau ymgyrchydd - Jamie Bevan (35, Merthyr Tudful) a Heledd Melangell Williams (21, Nant Peris) - dorri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad fel protest yn erbyn y newidiadau i S4C.

Dal i boeni am annibynniaeth S4C yn dilyn cyfarfod gyda Mark Thompson

bbc-mark-thompson.jpgBu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cwrdd gyda Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yng Nghaerdydd heddiw i drafod dyfodol S4C.Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni am annibyniaeth a chyllid S4C ar ôl i Lywodraeth San Steffan benderfynu newid y ffordd y mae'r sianel yn cael ei ariannu heb ymgynghori gyda unrhyw un yng Nghymru.Yn dilyn y cyfarfod dywedodd Bethan