Cyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr - Iaith Gwaith y Cyngor ei hun

30/01/2016 - 10:30

Neuadd Llyfrgell tref Caerfyrddin

Oes enghraifft gyda chi sy'n dangos nad yw'r Cyngor yn gweithio'n Gymraeg – llythyr uniaith Saesneg, papur/dogfen sydd yn bennaf yn Saesneg? Dewch ag e i gyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr, er mwyn herio'r Cyngor i weithio'n Gymraeg neu rhannwch e gyda ni o flaen llaw - bethan@cymdeithas.org

 

Yn cynrychioli'r Cyngor ac yn ateb cwestiynau yn y cyfarfod bydd:

* Wendy Walters, Prif Weithredwr Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros Ffocws Cwsmeriaid a Pholisi/Datblygu Economaidd

* Paul Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros Reoli Pobl

* Cyng. Mair Stephens, Cadeirydd Panel Ymgynghorol y Gymraeg

* Cyng. Cefin Campbell, Is-Gadeirydd Panel Ymgynghorol y Gymraeg,

* Cyng. Calum Higgins, aelod o Banel Ymgynghorol y Gymraeg

 

Bydd Heledd Cynwal yn agor y cyfarfod