Colli Cwsg Dros yr 80% - Gwylnos Dros Addysg Gymraeg i Bawb!

27/09/2016 - 18:00
Tra bod Llywodraeth Cymru yn oedi, mae 80% o blant Cymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r Gymraeg. Ymunwch â ni mewn Gwylnos ar 27 Medi er mwyn galw am amserlen bendant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dileu Cymraeg ail iaith a sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, nid dim ond i'r 20% ffodus. Bydd yn cychwyn am 6pm ymlaen, nos Fawrth 27ain Medi tan 10:30yb, dydd Mercher 28ain Medi - gwylnos ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd (mae croeso i chi gysgu dros nos, neu ddod am gyfnod yn unig).