Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Trafodaeth Caerdydd

30/01/2017 - 19:00

7pm, nos Lun, 30ain Ionawr 2017

Canolfan Celfyddydau Chapter, Treganna, Caerdydd

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Trafodaeth Caerdydd

Mae Llywodraeth Prydain yn cynnal adolygiad o S4C yn 2017. Dewch i leisio barn am yr ymgyrch i ddatganoli darlledu a beth fydd rôl S4C fel darlledwr datganoledig.

A ddylai Awdurdod S4C droi yn “Awdurdod Darlledu” cyffredinol i Gymru? A ddylai fod yn gyfrifol am ddarlledu ym mhob iaith? Ac ar bob platfform? A ddylai S4C neu gorff arall fod yn gyfrifol am ail a thrydedd sianel deledu a gorsafoedd radio Cymraeg?