Dileu Swyddi Adran Gymraeg Aberystwyth - llythyr at yr Is-Ganghellor

Annwyl Athro Treasure,

Ysgrifennwn atoch ynghylch eich bygythiad i ddileu tair swydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Gofynnwn i chi ailystyried y bwriad hwn, gan y byddai’n peryglu dyfodol astudiaethau Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Credwn y dylai pynciau fel y rhain gael eu diogelu yn ddiamod, a bod y fath doriadau yn bygwth dyfodol sector addysg uwch yng Nghymru yn gyffredinol.

Fel y gwyddoch, mae sefydliadau megis Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn hollbwysig o ran statws y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill yn llygaid darpar fyfyrwyr, ysgolion a rhieni. Mae torri swyddi fel hyn yn effeithio ar nifer y disgyblion fydd yn astudio Cymraeg lefel A, a fydd yn y pen draw yn amharu ar nifer y myfyrwyr fydd gan y Brifysgol. Drwy feithrin toeon newydd o siaradwyr Cymraeg rhugl ac arbenigwyr ym meysydd ieithyddiaeth, cyfieithu a llenyddiaeth, mae adrannau Cymraeg yn flaenllaw i ddyfodol y Gymraeg fel iaith genedlaethol ac iaith dysg.

Mae’r Adran Gymraeg yn denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd i astudio’r ieithoedd Celtaidd yn y Brifysgol. Heb Adran Gymraeg gref, bydd y Brifysgol yn colli sefydliad bydeang ei fri a nifer sylweddol o fyfyrwyr tramor.

Yn ogystal â hyn, byddwch yn ymwybodol o ddyletswydd y Brifysgol i hyrwyddo’r Gymraeg ac addysg sy’n benodol i Gymru. Byddai’r toriadau arfaethedig yn gwbl groes i’r genhadaeth hon a gynhwysir yn Siarter y Brifysgol. Mae swydd darlithydd y Wyddeleg yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Iwerddon ac felly byddai dileu’r swydd hon yn amharchu’r ymrwymiad rhyngwladol hwn ac yn debygol o ddwyn anfri ar y Brifysgol ac ar Gymru. Gofidiwn fod y bwriad i dorri'r swyddi hyn yn rhan o dueddiad hir-dymor yn strategaeth Prifysgol Aberystwyth sy'n golygu fod y Brifysgol yn cefnu ar ei dyletswyddau i bobl Cymru a’i threftadaeth Gymraeg.

Mae Adran y Gymraeg yn adran unigryw. Hi yw’r unig adran sy’n dysgu’r ieithoedd Celtaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n gymuned i siaradwyr brodorol a dysgwyr yr ieithoedd Celtaidd byw eraill, ac yn fodd i greu cysylltiadau rhyngwladol, sydd yn hollbwysig y dyddiau hyn. Byddai’r toriadau hyn yn gwanhau Adran y Gymraeg yn ddybryd, fel adran prifysgol a chymuned sy'n un o gonglfeini y Gymraeg yng Ngheredigion ac yn hafan unigryw i siaradwyr a dysgwyr yr ieithoedd Celtaidd byw ar draws y byd.

Oherwydd hyn, os ydych am fod yn wir i’ch gair fod ‘Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth’ a’ch bod ‘yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau,’ ni allwch drin Adran y Gymraeg fel unrhyw adran arall, er gwaetha’r heriau ariannol. Felly, gofynnwn i chi gadarnhau na fyddwch yn dileu tair swydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Yn gywir,Heledd Gwyndaf,

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg