Addewid Gwersi Nofio Cymraeg yn 'ddiwerth'?

Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai addewid y Llywodraeth i ddarparu gwersi nofio Cymraeg i bob blentyn drwy'r safonau iaith fod yn ddiwerth yn 14 o siroedd achos preifateiddio, yn dilyn gwaith ymchwil gan y Cynulliad.   

Mae'r safonau iaith yn cynnwys cymalau sydd i fod i sicrhau gwersi nofio Cymraeg, ond nid yw'r safonau yn cynnwys dyletswydd i gynnwys amodau iaith wrth ddosrannu grantiau nag wrth gontractio i wasanaeth allanol. Yn ôl y wybodaeth gan wasanaeth ymchwil y Cynulliad, mae 14 allan o 19 awdurdod a ymatebodd naill ai wedi, neu yn ystyried, sefydlu ymddiriedolaeth neu gael cwmni preifat i gynnal eu gwasanaethau hamdden.  Mae'r mudiad iaith wedi galw am eglurder gan y Llywodraeth am y sefyllfa gyfreithiol, a sut y bydd y gwahanol fodelau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i redeg y pyllau nofio yn effeithio ar eu dyletswyddau newydd i ddarparu gwersi nofio Cymraeg.  

Mae'r mudiad yn dadlau bod diffyg safon sy'n gosod amodau iaith ar gontractau a grantiau yn groes i strategaeth iaith y Llywodraeth sy'n addo: ‘sicrhau bod amodau priodol o ran y defnydd o’r Gymraeg yn cael eu cynnwys wrth i grantiau a chontractau gael eu dyfarnu i gwmnïau’r sector preifat gan gyrff cyhoeddus’. Mae hefyd yn mynd yn groes i gyngor Comisiynydd y Gymraeg.  

Dywedodd Manon Elin, Is-gadeirydd Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith: "Mae nifer o fodelau gwahanol yn cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol i ddarparu gwersi nofio. Rydym wedi gofyn i’r Llywodraeth am eglurhad o’r sefyllfa gyfreithiol, ac yn gobeithio y bydd 'na ddatrysiad. Mae'n bwysig bod hawl i bob plentyn yn y wlad allu mwynhau'r iaith mewn cyd-destun cymdeithasol o'r fath - ni ddylai mannau gwan cyfreithiol fod yn ffactor. 

"Fodd bynnag, mae ‘na bryder mawr y gallai addewid y Llywodraeth i gyflwyno gwersi nofio Cymraeg fod yn ddiwerth mewn nifer fawr o ardaloedd. Mae'n amlygu gwendid ehangach yn y safonau ynghylch peidio â chael dyletswydd i gynnwys amodau iaith mewn cytundebau a grantiau. Rydyn ni'n deall bod y Llywodraeth yn mynd i wneud ymchwil pellach ynghylch y sefyllfa gyfreithiol, ond rydyn ni'n credu bod angen safon benodol yn hyn o beth. Rydyn ni'n mynd i gynnig syniadau manwl i'r swyddogion mewn ymgais i sicrhau bod pawb yn cael byw a mwynhau yn Gymraeg.” 
 
Cafodd y gwaith ymchwil ei ddarparu gan Weinidog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg Simon Thomas AC i’r Canolbarth a Gorllewin Cymru a ddywedodd: “Bydd rhaid i’r safonau iaith ddelio gyda hyn. Rydyn ni o’r farn, oherwydd yr arian cyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio, bydd angen darpariaeth Cymraeg a bydd rhaid i’r safonau iaith adlewyrchu hynny.”  

[Manylion yr ymchwil am byllau nofio / gwasanaethau hamdden]