Cadw Llygad Barcud ar y Cyngor Sir

Wrth i Bwyllgor Strategol y Gymraeg Cyngor Sir Gaerfyrddin gwrdd heddiw (dydd Llun 6ed o Hydref) mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi casglu yn Neuadd y Sir gyda modelau o farcudiaid er mwyn pwysleisio wrth y cyngor eu bod yn cadw llygad barcud ar eu gwaith.
 
Fe wnaeth y Gymdeithas gynnal parti i ddathlu fod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi derbyn argymhellion Gweithgor y Gymraeg ac wedi rhoi cynllun gweithredu yn ei le ond yn pwysleisio eu bod yn cadw llygad barcud dros y misoedd nesaf yn arwain at gyfarfod Tynged yr iaith yn Sir Gâr.
 
Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas y GYmdeithas yn ardal Caerfyrddin:
“Rydyn ni wedi codi pryderon gyda'r cyngor bod y broses yn araf ac wedi eu hatgoffa ei bod yn argyfwng ar y Gymraeg ac felly bod angen gweithredu brys.
“Er i ni gynnal parti yn yr Eisteddfod fe wnaethon ni ddweud na fydden ni'n dathlu go iawn nes i ni weld yn sicr fod y cyngor yn cadw at ei gair ac y byddwn ni'n cadw llygad barcud ar eu gwaith yn arwain at Gyfarfod Tynged yr Iaith yn Sir Gâr ar Ionawr yr 17eg. Bydd hynny ddwy flynedd wedi i ni gynnal Rali'r Cyfrif a naw mis ers i'r cyngor dderbyn argymhellion gweithgor y Gymraeg – a thraean o'r ffordd at y Cyfrifiad nesaf. Bydd cyfle i bawb benderfynu a yw'r cyngor yn cymeryd ei waith o ddifrif.”

 

Yn y llun mae Freya Amsbury, Amy Jones, Rhiannon Young, Dafydd Young, Kevin Madge - Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Sioned Elin a Ffred Ffransis

Y stori yn y wasg:

Golwg360 - Cymdeithas yn cadw 'llygad barcud' ar Gyngor Sir Gâr

South Wales Guardian - Language Group Vows to keep watch on council promise