Croesawu adroddiad pwyllgor trawsbleidiol am y Bil Cynllunio

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'n wresog adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd am y Bil Cynllunio a gafodd ei gyhoeddi heddiw (Ionawr 30). 

Mae'r pwyllgor yn cefnogi nifer o brif argymhellion y mudiad iaith gan gynnwys gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol, sefydlu cyfundrefn o asesiadau effaith iaith a sefydlu diben statudol i'r drefn gynllunio. 

Dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn, yn enwedig ei gefnogaeth i roi'r Gymraeg yn ganolog i'r system ac i rymuso ein cymunedau. Rydyn ni nawr yn disgwyl i'r Llywodraeth dderbyn yr argymhellion, a fyddai'n gwneud y system gynllunio'n fwy cynaliadwy. Os nad ydy'r Llywodraeth yn gwrando, mi fyddwn ni'n ystyried herio'r Bil yn y llysoedd. Mae hwn yn fater mor bwysig i'r Gymraeg ac o ran grymuso cymunedau, mae'n rhaid i ni ystyried pob opsiwn posib er mwyn cael y maen i'r wal.  

"Wedi'r cwbl, mae gwir angen i'r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella'r amgylchedd, er mwyn cryfhau'r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi. Rhaid rhoi'r gorau i ddynwared system sydd wedi ei greu ar gyfer Lloegr - fel arall gall fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg." 

Daw'r adroddiad wedi i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgan ei bod wedi cychwyn camau cyfreithiol i herio'r ddeddfwriaeth ar y sail bod y Llywodraeth wedi anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar y Bil. Y llynedd, ysgrifennodd saith arweinydd cyngor at y Llywodraeth i gwyno am y diffyg sôn am yr iaith.