Arfogi trigolion Gwynedd a Môn - ymgynghori ar y cynllun tai

Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan ei bwriad o geisio arfogi trigolion siroedd Gwynedd a Môn yn y broses o gasglu barn gyhoeddus am y cynllun tai, fydd yn cychwyn ar Chwefror 16 2015.

Meddai Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd.

“Fel rhai sydd wedi ymgyrchu yn erbyn gor-ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol
ers blwyddyn a mwy, rydym yn grediniol ein barn bod y broses o lunio'r cynllun
gorffenedig yn cyrraedd cyfnod allweddol iawn”

Ychwanegodd -

“Mae Cynghorau Sir Gwynedd a Môn wedi datgan yn ddiweddar y bydd yr hyn sy'n
cael ei alw yn “Cynllun Adnau” y CDLL yn cael ei rhyddhau am ymgynghoriad
cymunedol yn ystod yr wythnosau nesaf – Chwefror 16 am 6 wythnos, gobaith y ddau
Gyngor ydi cael barn y cyhoedd am y cynllun, ac yn arbennig ein barn am faint o
dai fydd yn cael eu hadeiladu ac yn mhle”

“Fel un sydd wedi edrych ar y ddogfen, mae ein pryderon wedi eu gwireddu hynny yw, mai
gobaith y ddau gyngor ydi rhyddhau digon o dir er mwyn adeiladu ychydig dros
7000 o dai, yn wahanol i'r hyn oedd yn cael ei ddweud gan ambell i gynghorydd
dylanwadol yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Yn ail, rydym yn poeni ac yn
cwestiynu dilysrwydd yr hyn sydd yn cael ei gynnig – o wireddu'r cynllun, bydd
870 o dai yn cael eu hadeiladu ym Mangor, 384 yng Nghaernarfon, 291 yn nhref
Pwllheli, 291 ym Mlaenau Ffestiniog, 82 ym Methesda, 621 yn Llangefni. O edrych
wedyn ar bentrefi llai, y gobaith ydi adeiladu 69 o dai yn Llanberis, 39 ym
Motwnnog a 39 yn Chwilog.”

“Wrth ddarllen drwy'r cynllun, mi fydd pob rhan o'r sir yn gweld rhyw fath o
ddatblygu tai, a hynny heb unrhyw ddealltwriaeth o beth yn union fydd effaith
hyn oll ar y Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw.”

Ychwanegodd Menna Machreth – Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd / Môn CYIG

“Rydym yn parhau i ddisgwyl os fydd gan Gynghorau Sir Gwynedd a Môn unrhyw
gynlluniau manwl er mwyn hwyluso'r broses o gael y cynifer mwyaf posib i roi eu
barn ar y cynllun, cwta bythefnos sydd tan gychwyn y cyfnod ymgynghorol, a bydd
yn parhau am 6 wythnos yn unig. Rydym felly yn gofyn i'r ddau gyngor i ddatgan
beth yn union fydd eu hamserlen yn ystod y 6 wythnos”

Ychwanegodd

“Byddwn ni fel mudiad yn gwneud popeth yn ein gallu i geisio hwyluso'r broses
drwy drefnu digwyddiadau a chyfarfodydd cyhoeddus er mwyn ceisio arfogi
trigolion yn y ddwy sir i gymryd rhan lawn yn y broses”

“Mae'n boen calon i ni fel ymgyrchwyr, bod ein holl alwadau ers 18 mis wedi eu
hanwybyddu'n llwyr, a byddwn yn annog pawb i anfon neges glir a syml i Gynghorau
Gwynedd a Môn yn ystod yr ymgynghoriad - “NA i 8000 o dai, peidiwch meiddio
cynnal ymgynghoriad ar seiliau mor simsan”

“Ein cam cyntaf fydd lansio deiseb ar-lein yn ystod y dyddiau nesaf, a byddwn yn
annog pawb sy'n poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg i lenwi'r ddeiseb.”

Gyrrwch ebost i Gyngor Gwynedd yma: http://cymdeithas.org/ebost/cynllunio-er-budd-ein-cymunedau-cymraeg