Miliwn o siaradwyr Cymraeg? Herio pleidiau i fod yn 'uchelgeisiol'

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru gynllunio i gyrraedd un miliwn o siaradwyr Cymraeg, dyna oedd un o brif alwadau Cymdeithas yr Iaith heddiw wrth iddynt lansio eu cynigion polisi ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Yn y ddogfen, a fydd yn cael ei lansio yn y Senedd, mae degau o syniadau sy'n anelu at gyrraedd tri nod cyfartal - creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob maes bywyd. Mae'r ddogfen weledigaeth yn cynnwys argymhellion i:

  • Cyflwyno 'Bil Addysg Gymraeg i Bawb' er mwyn sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg, a pheth addysg cyfrwng Cymraeg i bawb
  • Gosod dyddiadau targed statudol ar gyfer cyflwyno addysg gynradd Gymraeg yn unig yn gynyddol ar draws Cymru.
  • Agor rhagor o neuaddau Cymraeg i fyrfyrwyr
  • Sefydlu canolfannau i'r hwyrddyfodiad a throchi ym mhob sir, gyda'r nod o sicrhau eu bod yn gweithredu ar yr un patrwm â'r gyfundrefn yng Ngwynedd
  • Estyn maes cyfrifoldeb y Coleg Cymraeg i addysg bellach, ac addysg ôl-16 yn fwy cyffredinol
  • Cyflwyno Bil Cynllunio'r Gweithlu a fyddai sefydlu targedau a chyfrifoldebau clir er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg

Wrth siarad am y ddogfen, o'r enw "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 ymlaen", yn y lansiad yn y Senedd yng Nghaerdydd, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Credwn fod yr etholiad nesaf yn un tyngedfennol i'r iaith. Mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod: mae angen i ni fel pobl a'n gwleidyddion codi eu gorwelion. Nid oes amheuaeth bod canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn amlygu'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg. Ond does dim angen, na diben, anobeithio, ond, yn hytrach, mae angen gweithredu'n fwriadus ar bolisïau a chynlluniau clir. Os ydy ein gwleidyddion o ddifrif am gyrraedd amcanion uchelgeisiol, mae angen penderfyniadau dewr ar ddeddfwriaeth, adnoddau, defnyddio cefnogaeth y cyhoedd a chynllunio'r ffordd ymlaen."

"Mae'r cynigion yr amlinellir yn ein dogfen weledigaeth yn becyn o bolisïau wedi eu seilio ar drafodaethau manwl oddi fewn yn ogystal ag arbenigwyr yn y maes polisi iaith. Wrth reswm, nid ydym yn honni bod gennym fonopoli ar yr holl bolisïau sy'n mynd i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod, ond gobeithiwn yn fawr bod bodolaeth y ddogfen a'r cynigion yn dangos pwysigrwydd etholiad 2016 fel un o bwys hanesyddol i'r Gymraeg a chymunedau Cymru'n gyffredinol."

Gan gyfeirio at record y Llywodraeth bresennol, ychwanegodd Jamie Bevan:

"Ers canlyniadau'r Cyfrifiad, mae nifer o adroddiadau clodwiw wedi cael eu cyhoeddi gan argymell newidiadau polisi i Lywodraeth Cymru, ond mae mwyafrif yr argymhellion sy'n gofyn am newid gwirioneddol wedi eu hanwybyddu, megis argymhelliad adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd i osod amod iaith ar bob grant i fusnesau ac argymhellion brys adroddiad yr Athro Sioned Davies."

"Wedi dweud hynny, mae nifer o ddatblygiadau addawol ar y gweill. Mae nifer ohonynt yn deillio'n uniongyrchol o ymgyrchoedd y Gymdeithas, gan gynnwys caniatáu i gynghorau sir godi treth uwch ar ail gartrefi, dileu'r cwrs byr TGAU ail iaith, a sefydlu'r Gymraeg fel ystyriaeth berthnasol statudol yn y drefn gynllunio."