Neuadd Pantycelyn: Cefnogi Ympryd y Myfyrwyr

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i bobl gefnogi ympryd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth er mwyn achub neuadd Pantycelyn.  

Dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis: “Rydym yn galw ar i bawb gefnogi ymgyrch hollbwysig y myfyrwyr. Bydd nifer o aelodau'r Gymdeithas yn ymuno yn yr ympryd. Rwy'n gobeithio y bydd cefnogaeth eang i'w hymgyrch.”