‘Cymunedau Cymraeg yn hollbwysig’ - neges rali’r Bala

“Mae cymunedau Cymraeg yn hanfodol” - dyna neges Cymdeithas yr Iaith heddiw pan ddaeth tua 200 o ymgyrchwyr ynghyd yn y Bala i godi llais am ganlyniadau'r Cyfrifiad heddiw.

Cynhaliwyd y rali ddyddiau’n unig cyn i ragor o ystadegau’r Cyfrifiad gael eu rhyddhau am gyflwr y Gymraeg. Yn ôl y ffigyrau sydd eisoes wedi’u rhyddhau, mi oedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru - lawr o bron i 21% ddegawd yn ôl i 19% - ac fe gwympodd canran y siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin a’r gogledd. Targed Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.

Yn annerch y rali yr oedd disgybl ysgol Joseff Owen, yr Aelod Cynulliad Llyr Huws Gruffydd, Sian Howys a Dilwyn Morgan. Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'n holl bwysig bod cymunedau lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn cael eu diogelu a bod Llywodraeth Cymru a lleol yn gweithredu polisiau o blaid yr iaith ym maes yr economi, addysg, tai a chynllunio. Byddwn yn edrych ar ffigyrau'r Cyfrifiad o ran canran siaradwyr ar lefel cymunedau unigol yn ofalus iawn ac yn galw am gynlluniau pendant. 70% yw'r canran siaradwyr sy'n dynodi cymuned lle mae'r Gymraeg yn iaith pob dydd - mae'r cwymp o un degawd i'r llall yn nifer y cymunedau hynny yn arswydus - dydi hyn ddim llai nag esgeulusdod cwbl anghyfrifol gan y sawl sydd mewn grym yn ein gwlad. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros gymunedau cynaliadwy Cymraeg fel mater o flaenoriaeth ynghyd â'r hawl i bawb yng Nghymru fyw yn Gymraeg."

Llyr Huws Gruffydd AC - Rali'r Cyfrif Y BalaDywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru Llyr Huws Gruffydd: 

“Nid ar chwarae bach y mae cynnal yr iaith fel iaith fyw, iaith gymunedol, oherwydd ein bod yn byw drws nesa i un o ddiwylliannau mwya’ pwerus y byd. Mae angen dysgu gwersi oddi wrth trefi fel Bala, ardaloedd fel Penllyn, sydd wedi cadw’r Gymraeg yn fyw tra bod ardaloedd i’r Gorllewin wedi edwino.

“Rydan ni hefyd angen dysgu oddi wrth llwyddiannau ieithoedd fel y Basgeg a’r Catalaneg – sy’n cynyddu drwy help llywodraethau ac hefyd llewyrch economaidd cymharol y gwledydd hynny. Dyna pam fod rhaid i llywodraeth Cymru fynd ati i roi hwb go iawn i’r Bröydd Cymraeg o ran yr economi. Os ydio’n bosib creu parthau menter mewn ardaloedd penodol o Gymru efo miliynau o bunnoedd o gymorth, mae’n hanfodol cynnig cymorth economaidd penodol mewn ardaloedd Cymraeg. Heb swyddi, heb fentrau, heb waith fydd dim stop ar y llif o’r ardaloedd Cymraeg a dyna greu anobaith. Er mwyn i’r iaith ffynnu rhaid cael gwaith a gobaith.”

Robin Farrar - Rali'r Cyfrif Y BalaMeddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn genedlaethol:

"Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn canlyniadau’r Cyfrifiad: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg. Ni all y Gymraeg a’i chymunedau fforddio mwy o’r un peth gan y llywodraeth na sefydliadau Cymru yn ehangach."

“Mae’n amser am ddewrder a syniadau newydd gan ein gwleidyddion. Os derbynia’r Llywodraeth bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd gobaith. Credwn mai dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno.  Yr hyn sydd eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad"

Ar ddydd Sadwrn Chwefror 2 yn Aberystwyth, cynhelir yr olaf yn y gyfres o raliau yn ymateb i’r Cyfrifiad, 50 mlynedd yn union ers i Gymdeithas yr Iaith gynnal eu protest gyntaf ar Bont Trefechan yn y dref.

Gweld mwy o luniau...