Darlledu

Diswyddiadau S4C

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod S4C yn sefydlu cynllun diswyddiadau gwirfoddol ymhlith ei staff.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dechreuad yn unig yw hwn. Mae toriadau enfawr y Llywodraeth yn rhoi dyfodol S4C fel sianel annibynnol yn y fantol. Os nad yw pethau yn newid yn fuan, ni fydd digon o staff ar ôl gyda'r sianel i gynnal gwasanaeth annibynnol, ac fe fydd y BBC yn cymryd drosodd yn gyfangwbl.

Grwp ymbarél yn croesawu gwrthwynebiad trawsbleidiol

na-i-doriadau-s4c-llundain.jpgAdroddiad S4C: ASau Cymru yn erbyn cynllun y LlywodraethMae nifer o undebau a mudiadau iaith wedi croesawu'r newyddion bod y mwyafrif o ASau o Gymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i gwtogi ar gyllideb S4C, wrth i adroddiad beirniadol trawsbleidiol gael ei gyhoeddi.Pleidleisiau gan ASau o Loegr yn unig wnaeth atal cynnwys

Llai o Gymraeg ar Radio Ceredigion

Radio Ceredigion.pngMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu cais gan Radio Ceredigion i leihau ei darpariaeth Gymraeg.Cododd Cymdeithas yr Iaith bryderon pan drosglwyddwyd rheolaeth dros yr orsaf i gwmni yn Arberth Sir Benfro.

S4C - Ymgyrchwyr o flaen y llys

Yn dilyn gwrandawiad yn llys ynadon Caerdydd heddiw cyhoeddwyd y bydd achos prawf dau ymgyrchydd iaith a weithredodd fel rhan o'r ymgyrch i achub S4C yn cael ei gynnal ddechrau mis Gorffennaf (2yh, Gorffennaf 7fed, 2011).

Honnir i'r ddau ymgyrchydd - Jamie Bevan (35, Merthyr Tudful) a Heledd Melangell Williams (21, Nant Peris) - dorri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad fel protest yn erbyn y newidiadau i S4C.

S4C: neges i arweinwyr pleidiau Cymru

proclamasiwn.jpgFe fydd ymgyrchwyr yn mynd i swyddfeydd arweinwyr y pedair prif plaid gwleidyddol yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 19) er mwyn cyflwyno neges frys am ddyfodol S4C.Ym mis Tachwedd y llynedd, ysgrifennodd y pedair arweinydd at y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r cynlluniau presennol.

Taith Gerdded S4C - Neges i'r BBC o Garreg Goffa Gwynfor

garn-goch-taith2-s4c.jpgBu criw o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn cario neges o Garreg Goffa Gwynfor ger Bethlehem i stiwdio'r BBC yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Llun, Ebrill 18), i dynnu sylw at yr argyfwng difrifol sy'n wynebu S4C, ac i rybuddio'r BBC i beidio a chydweithio â'r llywodraeth i danseilio'r sianel y brwydrodd Gwynfor drosti.Cafwyd Taith Gerdded o'r Garn Goch

Targedu Nick Clegg yn Aberaeron

clegg-aberaeron.jpgMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi targedu Nick Clegg y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ei ymweliad ag Aberaeron.Maent wedi defnyddio ei ymweliad i'w herio ar fater dyfodol S4C a'r ffaith fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bradychu pobl Cymru a gwerthu mâs ar y pwnc hwn.Dywedodd Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd ym

Achos Llys S4C: Jamie a Heledd

s4c-toriadau.jpgFe ohiriwyd achos llys dau ymgyrchydd iaith heddiw ar ôl i'r heddlu cyflwyno eu holl bapurau yn uniaith Saesneg.Gweithredodd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful a Heledd Melangell Williams o Nant Peris fel rhan o'r ymgyrch i achub S4C.

S4C: 'Gwrandewch ar lais Cymru' y neges i San-Steffan

lobi-san-steffan-s4c-1.jpgMae dros 100 o ymgyrchwyr iaith ac aelodau undebau wedi mynd â'u neges i Lundain heddiw, gan gynnal lobi yn San Steffan, mewn ymdrech i atal y toriadau a newidiadau i S4C.Mae arweinydd y pedair prif blaid yng Nghymru wedi galw ar y Llywodraeth i atal eu cynlluniau ar gyfer S4C er mwyn cynnal arolwg llawn o'r sianel.

Theatr stryd fel rhan o'r ymgyrch i achub S4C

theatr-stryd-caerfyrddin3.jpgFe aeth aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith a'r ymgyrch i achub S4C i strydoedd Caerfyrddin heddiw mewn modd theatrig.