Darlledu

Cannoedd yn cefnogi protest S4C yng Nghaerfyrddin

Daeth cannoedd o bobl i gyfarfod protest 'Na i Doriadau S4C' tu allan i adeilad y BBC ar stryd Priordy Caerfyrddin heddiw.

BBC yn tynnu allan o Eisteddfod yr Urdd Abertawe

Mae mudiad iaith wedi beirniadu penderfyniad y BBC i beidio cael pabell yn Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe eleni.G?yl gystadleuol fwyaf Ewrop i ieuenctid yw Eisteddfod yr Urdd, ond am y tro cyntaf ers blynyddoedd ni fydd gan y BBC babell ar gyfer teuluoedd sydd yn mynychu'r digwyddiad.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bod penderfyniad y BBC yn dangos na fyddai S4C yn ddiogel o dan reolaeth y gorfforaeth:"Ar ben gwario llai ar deledu Cymraeg a chael gwared o wefan Gymraeg, mae'r penderfyniad hwn gan y BBC yn dangos yn glir i ba ffordd mae'r gwynt yn chwy

"Why be there if you can't even speak Welsh?" cyhuddo'r llysoedd o gamwahaniaethu

achos-jamie-caerdydd-1.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwneud cwyn swyddogol i wasanaeth y llysoedd ar ol i swyddog awgrymu na ddylai pobl ddi-Gymraeg gefnogi'r iaith.Treuliodd Jamie Bevan dros hanner awr yn ceisio derbyn gwasanaeth Cymraeg yn ymwneud â'i achos ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iait

Cwtogiadau Cymraeg y BBC, S4C ddim yn saff

bbc-s4c.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod penderfyniad y BBC i ddiddymu ei wasanaeth chwaraeon ar-lein Cymraeg yn dangos na fyddai S4C yn saff gyda'r gorfforaeth.Meddai Menna Machreth, llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Sut allwn ni ymddiried y BBC i ofalu am S4C yn iawn os mai dyma fel maen nhw'n trin y gwasanaethau Cymraeg sydd ganddyn nhw'n barod?

Telewerthu Saesneg ar S4C

Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r newyddion hyn, yn ogystal â phenderfyniad y BBC i ddiddymu rhan o'i gwasanaeth ar-lein yn y Gymraeg, yn destun pryder fawr iawn. Rydym ar fin colli rhywbeth unigryw - sef yr unig sianel deledu yn yr iaith Gymraeg yn y byd. Dyma pam rydym yn ymgyrchu yn erbyn cydgynllun y BBC a'r Llywodraeth i gwtogi'n enfawr ar gyllideb S4C. Mae miloedd o bobl wedi ymuno yn ein hymgyrch - trwy fynychu ralïau, cyfarfodydd ac ysgrifennu llythyrau er mwyn achub y sianel.

Protestwyr yn meddiannu Swyddfeydd y BBC dros S4C

Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu swyddfeydd y BBC yng Nghaerdydd y bore yma.

Aeth yr ymgyrchwyr, gan gynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, mab Gwynfor Evans, i mewn i adeilad y BBC gan gyhuddo'r darlledwr o weithredu mewn modd 'annemocrataidd' wrth gymryd S4C (Sianel Pedwar Cymru) drosodd.

S4C: Gwrthod talu'r drwydded deledu wrth i daith gychwyn

s4c-toriadau.jpgMae'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a'r hanesydd Dr Meredydd Evans ymysg rhagor o bobl sydd wedi datgan heddiw (Dydd Iau, Ionawr 27) eu bod nhw'n gwrthod talu eu trwydded deledu, wrth i ymgyrchwyr iaith ddechrau cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i drafod dyfodol S4C.Mae ymgyrchwyr iaith yn pryderu am ddyfodol y sianel ar ôl i Lywodraeth Prydain ddatgan ei bwriad i gwtogi ar gyllideb y sian

S4C i fynd yr un ffordd a Gwasanaeth y Byd BBC?

s4c-toriadau.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod y toriadau newydd i Gwasanaeth y Byd yn dangos na fydd S4C yn saff yn nwylo'r BBC.Fe fydd 650 o swyddi yn mynd yn y gwasanaeth ar ôl i'r Llywodraeth torri ei grant i'r sianel 16% a'i hariannu trwy'r ffi drwydded, cynllun tebyg i'r un a gynigiwyd ar gyfer S4C.Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu'r mudiad:"Nid yw'r cwtogiadau

S4C: Gweinidog di-glem, medd Cymdeithas

ed-vaizey.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw'r Gweinidog Darlledu Ed Vaizey yn ddi-glem ar ol iddo gyflwyno tystiolaeth am S4C i ASau heddiw.Cyfaddefodd y Gweinidog, sydd yn gyfrifol am S4C yn y llywodraeth, heddiw nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel ac nad oedd sicrwydd am arian i'r sianel ar ol 2015 chwaith.Fe ddywedodd, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams:"Mae'n anhygo

S4C Pwy Dalodd Amdani? Hanes Ymgyrch Ddarlledu Cymdeithas yr Iaith

pwy-dalodd-amdani.jpgRhagair Argraffiad NewyddWedi ffurfio llywodraeth newydd yn Llundain ym Mai 2010, penderfynodd y Glymblaid Geidwadol/Ryddfrydol gwtogi'n ddifrifol ar wariant cyhoeddus mewn ymateb i'r argyfwng ariannol a achoswyd ynghynt gan y banciau yn y sector breifat.Bw