Bydd cynrychiolwyr o gymunedau Cymraeg yn ymgynnull yn Aberystwyth dydd Sadwrn (Ionawr 12) i drafod ffyrdd i gynnal ac adfywio’r iaith yn eu hardaloedd lleol.Cynhelir cyfarfod cenedlaethol cyntaf mudiad iaith newydd yn Y Morlan, Aberystwyth.
Fe ddaeth ymgyrchwyr iaith o ar draws y byd at ei gilydd yn Aberystwyth heddiw fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe wnaeth siaradwyr o Golombia, Gwlad y Basg, Twrci a Chatalonia yn ogystal â Chymru drin a thrafod ymgyrchoedd iaith mewn cynhadledd arbennig a gynhelir ar yr un penwythnos â chyfarfod cyffredinol y Gymdeithas. Ymysg y siaradwyr yr oedd Dr Sian Edwards o Brifysgol Abertawe, yr awdur ac ymgyrchydd Ned Thomas, Bejan Matur awdur Gwrdaidd o Dwrci, Paul Bilbao Sarria o Wlad y Basg a Maria Areny o Gatalonia.
Cynhelir rali flynyddol arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd cyfle gan siaradwyr i son am eu profiadau ymgyrchu mewn gwahanol lefydd yn y byd.
Siaradwyr:
yr Awdur a Darlledwr Mike Parker,
Llywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE,
Paul Bilbao Sarria, cynrychiolydd y mudiad iaith Fasgeg Kontseilua,
Ar hyn o bryd un o'n prif ymgyrchoedd o fewn y Rhanbarth yw sicrhau bod Cyngor Sir Ceredigion yn weithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddilyn esiampl Cyngor Sir Gwynedd a Chyngor Sir Caerfyrddin.