Cwyn - Any Questions

Annwyl Tony Hall,
 
Ysgrifennaf atoch er mwyn cwyno am y rhaglen Radio 4 'Any Questions' a ddarlledwyd ar 3ydd Chwefror 2017 o Dywyn.
 
Caniatawyd i aelod o'r gynulleidfa ofyn y cwestiwn canlynol yn ystod y rhaglen: "which would the panel choose as a priority for funding in Wales – the Welsh language or care budget?"
 
Yn sylfaenol, credwn fod camgymeriad golygyddol difrifol wedi ei wneud wrth ganiatáu i'r cwestiwn gael ei ofyn. Credwn y caniatawyd i'r cwestiwn gael ei ofyn er mwyn pryfocio a chorddi'r gynulleidfa a gwrandawyr y rhaglen, heb ei fod wedi ei seilio ar stori newyddion na digwyddiad cyfoes o ddiddordeb i'r cyhoedd. Credwn fod y BBC unwaith eto wedi ymdrechu'n fwriadol i greu rhwyg dros yr iaith Gymraeg fel iaith leiafrifoledig yng Nghymru ac ym Mhrydain, rhwyg nad yw'n bodoli, a gwneud hynny'n ddi-sail.
 
Credwn ymhellach bod y cwestiwn wedi camarwain gwrandawyr am y drafodaeth am y Gymraeg a'r ffeithiau am y Gymraeg drwy fframio'r ddadl ynghylch cost y Gymraeg yn erbyn darparu gofal. Byddai unrhyw olygydd gyda dealltwriaeth iaith wedi sylweddoli hynny. Byddent wedi sylweddoli bod y cwestiwn yngamarweiniol drwy godi dadl ffals sy'n anghofio dwy ffaith syml: yn gyntaf, wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd mae'n gorfod cael ei ddarparu drwy gyfrwng rhyw iaith neu'i gilydd; ac yn ail, bod darparu gwasanaeth gofal da yng Nghymru yn golygu darparu gofal drwy'r Gymraeg.
 
Credwn felly bod y rhaglen wedi torri'r egwyddor ym mharagraff 1.2.6. canllawiau golygyddol y BBC i 'wasanaethu budd y cyhoedd' gan (i) nad oedd hyn yn ymgais i adrodd stori sydd o bwys i'n cynulleidfaoedd a (ii) nad oedd y rhaglen yn drwyadl wrth ddod o hyd i wirionedd y stori nac ychwaith yn wybodus pan oedd yn ei egluro. Yn wir, mynnodd cyflwynydd y rhaglen Jonathan Dimbleby bod yn 'rhaid' dewis rhwng y Gymraeg a gofal, gan ddangos anwybodaeth lwyr o'r angen i ddarparu gwasanaeth gofal drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru a chamarwain y gynulleidfa yn y broses.
 
Credwn yn ogystal bod y rhaglen wedi torri ei chanllawiau i osgoi 'niwed a thramgwydd' ym mharagraff 1.2.5  gan na chydbwysodd yn iawn eich hawl i ddarlledu cynnwys arloesol a heriol â'n cyfrifoldeb i amddiffyn pobl
agored i niwed rhag niwed ac osgoi tramgwydd nad oes modd ei gyfiawnhau.
 
Nid oedd y rhaglen yn sensitif i safonau a dderbynnir yn gyffredinol ac ni lynodd wrthynt ychwaith.
 
Torrodd y rhaglen baragraff 1.2.2 y canllawiau o ran sicrhau cynnwys 'gwir a chywir' oherwydd (i) nad oedd ymdrech i bwyso a mesur ffeithiau a gwybodaeth berthnasol er mwyn cyrraedd y gwir. (ii) nad oedd yr allbwn yn
dod o ffynonellau da (iii) nad oedd yr allbwn yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn, wedi'i brofi'n drwyadl ac wedi'i gyflwyno mewn iaith glir a chywir; ac (iv) yn gwbl groes i'r canllawiau, nad oedd y rhaglen wedi ymdrechu i fod yn onest ac yn agored am yr hyn nad oeddem yn ei wybod. Yn hytrach nag osgoi dyfalu di-sail ar y rhaglen, roedd y penderfyniad golygyddol i ddewis y cwestiwn ac ymyrraeth y cyflwynydd yn hybu dyfalu di-sail ac agweddau anwybodus.
 
Ymhellach, pryderwn fod triniaeth 'Any Questions' o'r Gymraeg yn rhan o batrwm yn allbwn y BBC sy'n wrth-Gymraeg ac sy'n codi cwestiynau dwfn iawn am yr hyfforddiant a'r canllawiau a roddir i aelodau o staff y BBC
ynghylch y materion hyn.
 
Y llynedd, roedd dau achos o ymdriniaeth ddifrifol o annheg ac amhriodol o'r Gymraeg a arweiniodd at gamau disgyblu ac ymddiheuriadau gan y gorfforaeth. Roedd yn rhaid i BBC Cymru wneud ymddiheuriad swyddogol
ynghylch rhaglen 'Week in Week Out' ynghylch deddfwriaeth iaith.
 
Rhybuddiom y rhaglen ymlaen llaw bod eu ffigyrau'n anghywir, cwynom amdani a golygwyd y rhaglen cyn ei darlledu gydag ymddiheuriad gan y gorfforaeth.
 
Hyd yn oed wedi ei olygu, roedd rhannau o'r rhaglen yn dal i fod yn anghywir ac roedd yn rhaid i'r gorfforaeth ymddiheuro.  Cynhaliom gyfarfod gyda Chyfarwyddwr y BBC yng Nghymru Rhodri Talfan Davies ynghylch y
rhaglen, ond nid oedd yn fodlon derbyn bod problem ehangach na'r rhaglen honno ac felly nid oedd am ail-edrych ar hyfforddiant fel ymateb. Wedyn ym mis Awst eleni, roedd yn rhaid i'r BBC ymddiheuro o ganlyniad i neges gan ymchwilydd rhaglen Radio 5 Live yn gofyn i gyfrannwr gymryd rhan mewn sgwrs ar y radio "i drafod pam ddylai'r iaith Gymraeg farw".
 
Yr hyn sy'n cysylltu'r tri achos difrifol uchod yw ymdrech fwriadol gan gynhyrchwyr rhaglenni'r BBC i gorddi'r dyfroedd ynghylch y Gymraeg ac ysgogi trafodaeth nad yw'n adlewyrchu'r drafodaeth gyfoes yng Nghymru am
yr iaith. Mae'n rhaid cofio bod y Gymraeg wedi dioddef canrifoedd o bolisïau bwriadol er mwyn ei difetha. Yn ffodus, yn y degawdau diwethaf, drwy ymdrechion glew ymgyrchwyr ac eraill, llwyddwyd i newid agweddau i
raddau helaeth ac mae nifer o arolygon barn diweddar yn dangos cefnogaeth helaeth i'r iaith.
 
Rydym yn pryderu am driniaeth y BBC o faterion cydraddoldebau, gan gynnwys y Gymraeg, a thrafodaethau sy'n hybu agweddau rhagfarnllyd.
 
Gofynnwn i chi felly ymddiheuro am y rhaglen a chytuno i gynnal ymchwiliad i'r cwynion uchod ac allbwn ehangach y BBC er mwyn ystyried pa gamau y dylid eu cymryd i gywiro'r allbwn di-sail a rhagfarnllyd a ddarlledir ar hyn o bryd.
 
Yr eiddoch yn gywir,
Heledd Gwyndaf
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
 
copi at:
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru
Mark Williams AS, Arweinydd, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr Cymru, BBC