Gadael carafán ger swyddfa Llywodraeth Cymru oherwydd diffyg ymateb i'r argyfwng tai

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gadael hen garafan gyda'r geiriau "Hawl i Gartref" a symbol tafod y ddraig wedi eu paentio ar ei hochr tu allan i swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin heno (nos Iau, 24 Hydref).

Mae'r weithred yn brotest yn erbyn Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, ac sydd, yn ôl y mudiad, llawer yn rhy wan i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n wynebu cymunedau Cymru.

darllen mwy

Dim bwriad i ddeddfu ar yr hawl i dai digonol

Gyda chyhoeddiad hir-ddisgwyliedig Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti teg a Fforddiadwyedd Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, 24 Hydref), daeth cadarnhad nad oes bwriad i gorffori’r hawl i dai digonol yng nghyfraith ddomestig Cymru. darllen mwy...

Archif Newyddion

Gellir darllen yr holl archif newyddion yma.