Archif Newyddion

26/11/2009 - 15:00
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi tu fas i Superdrug yng Nghaerfyrddin heddiw 26/11 am 4pm. Byddwn yn dosbarthu taflenni gyda'r geiriau: "Superdrug - Cwmni Harddwch ac iechyd gyda agwedd Salw ac afiach at yr iaith Gymraeg".Fe fydd aelodau o'r Gymdeithas yn picedi tu fas i siop Boots yn Llandysul dydd Llun 30ain o Dachwedd am 1pm gan ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim tu allan i'r siop.
25/11/2009 - 22:03
Mae Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yn y gogledd, wedi cael ei garcharu am fis heddiw ar ôl safiad yn erbyn siopau mawrion yng ngogledd Cymru sydd yn gwrthod cynnig gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg.Dyma gyfeiriad i chi ddanfon llythyr o gefnogaeth ato:Osian JonesPrison No.DX8265HM Prison Altcourse,Fazakerley,LiverpoolL97 LH.Ffôn: 0151 522 2000Ffacs: 0151 522 2121Yn anffodus, nid yw'r gwasanaeth danfon ebost at garcharor yn weithredol yn y carchar yma ar hyn o bryd.
25/11/2009 - 11:01
Mae ymgyrchydd iaith Gymraeg wedi mynd i'r carchar am fis heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 25) yn sgil gwrandawiad gerbron llys ynadon Caernarfon.Ym mis Ebrill 2008, protestiodd Osian Jones, o Ddyffryn Nantlle, yn erbyn rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Superdrug a Boots, er mwyn dangos nad oedd gwasanaethau Cymraeg digonol ganddynt.Roedd y weithred
17/11/2009 - 18:30
Fe wnaeth siopwyr Bangor dderbyn anrheg Nadolig cynnar oddi wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor Dydd Sadwrn, Tachwedd 14 wrth i dros 100 o brotestwyr ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim yng nghanol y dre.Yn troi slogan Boots ar ei phen, roedd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh".
06/11/2009 - 17:16
Mae Ynadon Pwllheli wedi gohirio'r gwrandawiad am bythefnos tan 25 Tachwedd i Lys Ynadon Caernarfon.Mewn protest arhosodd Osian ac aelodau'r Gymdeithas tu fewn i adeilad y Llys am awr gan atal eu gweithgareddau, ac ymunodd 50 arall tu allan yn gweiddi 'Hawliau Iaith':Meddai Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n greulon iawn bod yr Ynadon wedi gohirio'r amser am bythef
05/11/2009 - 16:43
Yfory, dydd Gwener Tachwedd y 6ed am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn cael ei garcharu am fis gan Lys Ynadon Pwllheli.
05/11/2009 - 16:39
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o "ddiffyg dychymyg" yn dilyn datganiad Rhodri Morgan ddoe y gallai hyd at 170 o ysgolion gau o ganlyniad i leoedd gwag. Mewn neges at y Prif Weinidog, dywed Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar addysg fod: "yr hen agwedd negyddol hwn yn awgrymu diffyg dychymyg ar ran y llywodraeth." Ychwanegodd:"Dylai ein llywodraeth ymateb yn greadigol i'r argyfwng ariannol. Mae lluaws o asiantaethau cyhoeddus sydd i gyd a'u swyddfeydd eu hunain.
02/11/2009 - 23:13
Ar ddydd Gwener y 6ed o Dachwedd am 9.30 y bore bydd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd, yn ymddangos o flaen llys ynadon Pwllheli i dderbyn mis o garchar.Fe'i dedfrydwyd am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World ym Mangor rai
23/10/2009 - 21:49
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno.
15/10/2009 - 16:53
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn siomedig iawn ar ôl cyfarfod Peter Hain heddiw.