Archif Newyddion

20/07/2009 - 21:56
Ar drothwy cyfarfod rhwng Hywel Francis AS a Carwyn Jones AC yfory (21/07/09) i drafod y broses o drosglwyddo pwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon a nodi eu rhwystredigaeth yngl?n â'r broses.
17/07/2009 - 09:42
Yn ei hymateb i Strategaeth Ddrafft Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad ( cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar Awst 5ed ) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am newid sylfaenol yn nod y strategaeth.
07/07/2009 - 13:56
Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cyhoeddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn falch fod y Pwyllgor yn gweld yn dda mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod â'r cyfrifoldeb i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:'Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.
06/07/2009 - 09:57
Cred Cymdeithas yr Iaith bod holiadur a anfonwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at rieni yng Nghwm Gwendraeth yn gamarweiniol ac o'r herwydd bydd y canlyniadau'n ddi-ystyr.
29/06/2009 - 23:11
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cynghorwyr ar eu ffordd i mewn i gyfarfod allweddol o Gyngor Ceredigion am 9am fore Mawrth (30/6) sy'n ailystyried y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.Mewn neges at y cynghorwyr, dywed y Gymdeithas fod y broses o benderfynu cau'r ysgol bentrefol Gymraeg ym Mhonterwyd wedi bod mor frysiog ac mor wallus fel ei b
25/06/2009 - 11:55
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan ei siom fod cyfarfod tyngedfennol i drafod y Gorchymyn Iaith wedi'i ohirio. Roedd Peter Hain wedi datgan y byddai Uwch Bwyllgor Cymru yn cyfarfod ar 8 Gorffennaf i drafod cais y Cynulliad i ddatganoli pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru, er nad yw cyfarfod o'r fath yn angenrheidiol.
22/06/2009 - 21:09
Heddiw ar ddiwrnod cyhoeddi argymhellion yr Athro Robin Williams i'r Gweinidog Addysg ar fater polisi y Llywodraeth o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu rhai o argymhellion cryf yr adroddiad ac yn awr yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Coleg aml-safle cadarn ac iddo gyllideb sylweddol.Meddai Rhys Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Goleg Ffederal Cymraeg:"Rydym ni'n eithriadol o falch fod adroddiad Robin Williams yn argymell y bod angen sefydliad newydd annibynnol er mwyn datblygu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch.
18/06/2009 - 21:04
Oherwydd fod Arfon Gwilym wedi cael ei wahardd rhag mynd i Unol Daleithiau'r Amerig i gymryd rhan mewn Gwyl Werin, mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr at Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn erfyn arnynt i newid eu meddwl.
05/06/2009 - 16:31
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llongyfarch aelodau Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol am greu adroddiad sy'n datgan yn glir y dylid datganoli pwerau deddfwriaethol mor eang â phosibl dros yr iaith Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
03/06/2009 - 16:30
Deuddydd cyn bod Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno adroddiad am y Gorchymyn Iaith i Lywodraeth y Cynulliad, fe ryddhawyd Ffred Ffransis o Garchar y Parc (ger Pen-y-bont) heddiw.