Archif Newyddion

19/05/2010 - 16:26
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio penderfyniad y Cynulliad i beidio â chyfieithu'r cofnod o drafodion yn y siambr i'r Gymraeg. Mae'r mudiad hefyd wedi rhybuddio y byddan nhw'n ymgynghori gyda chyfreithwyr yngl?n â her gyfreithiolMae'r mudiad yn cynnal protest tu allan i'r Senedd ar ddydd Sadwrn 22 Mai, fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r penderfyniad yn warthus.
14/05/2010 - 09:19
Mewn ymateb i gyhoeddiad Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc dywed Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r atebion a argymhellir gan gynghorwyr presennol Gwynedd yn waeth na'r hyn oedd yn cael ei gynnig gan y cyn arweinyddiaeth yng Ngwynedd ac a wrthodwyd gan yr etholwyr yn yr etholiad diwethaf. Yr oedd y cyn arweinyddiaeth wedi rhoi sicrwydd am ddyfodol Ysgol y Parc. Nawr mae gyda ni arweinyddiaeth newydd sydd am danseilio cymuned fywiog Gymraeg.
29/04/2010 - 16:48
Mae bron i hanner o gynghorau Cymru yn methu darparu gwersi nofio yn y Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd ble mae nifer fawr o blant yn dysgu'r iaith, yn ôl ffigyrau a gasglwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.Mae naw awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu gwersi nofio trwy'r Saesneg yn unig, gan gynnwys Cyngor Sir Caerdydd, gyda chwe chyngor heb gofnodi'r data ynglyn â pha iaith cynhelir y gwersi.Yn Sir Gâr, cyfaddefodd yr awdurdod lleol fod llai nag un y cant o wersi nofio - 10 gwers allan o 6,200 - oedd wedi ei ddarparu yn y Gymraeg ym mhwll nofio Rhydaman llynedd, er bod 62% o boblogaeth
15/04/2010 - 09:43
Rai wythnosau yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drafft o'r Mesur Iaith maen nhw'n debygol o'i basio.
01/04/2010 - 14:37
Bydd llyfr newydd sydd yn esbonio hanes degawd o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau mileniwm newydd yn cael ei lansio yng Nghaernarfon heddiw.Sbardun cyhoeddi'r llyfr hwn oedd rhannu'r rhai o'r cannoedd o lythyrau a chardiau a dderbyniodd Osian Jones tra yn HMP Altcourse yn ystod Rhagfyr 2009 am ei ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.Bydd y llyfr ar werth am £4.95 o siopau llyfr Cy
18/03/2010 - 11:04
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr oddi wrth dros ddwsin o gyfreithwyr yn galw am fesur iaith cryfach heddiw (Dydd Iau, 18 Mawrth).Dyweda'r cyfreithwyr yn eu llythyr agored: "Credwn fod angen datganiad clir a diamwys mewn deddf gwlad fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru er mwyn gwireddu hynny, a hyd yn hyn, ni chafwyd datganiad o'r fath."Ychwanega'r cyfreithwyr: "Nid yw gosod safonau ..., er gwaetha'r ffaith y bydd eu torri yn medru arwain at gosbau, gyfystyr â sefydlu hawliau i unigolion.""Yn ein barn ni, i raddau'n unig y mae'r Mesur hwn yn
10/03/2010 - 10:58
Mae Llywodraeth Cymru 'wedi torri ei haddewidion' ac yn trio 'camarwain y cyhoedd' gyda'i mesur iaith Gymraeg, yn ôl cwyn swyddogol gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i'r Prif Weinidog.Mewn llythyr at Carwyn Jones, bydd yr ymgyrchwyr yn honni fod datganiadau gan y llywodraeth am y mesur iaith ddydd Iau diwethaf yn 'gamarweiniol tu hwnt'.
08/03/2010 - 14:10
Mae Radio Ceredigion wedi'i gwerthu i Town and Country Broadcasting gan y Tindle Newspaper Group.
03/03/2010 - 15:26
Mewn ymateb i gynlluniau arfaethedig Awdurdod Addysg Ceredigion i gau chwech o ysgolion cynradd yn ardal Llandysul ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, mae rhieni pedwar o'r ysgolion wedi llunio deisebau a fydd yn cael eu cyflwyno tu allan i brif adeilad y Cyngor ym Mhenmorfa heddiw (Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 4pm).Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a rhiant yn Ysgol Llandysul:" Mae yna
01/03/2010 - 16:58
Methodd y cyn Prif Weinidog Rhodri Morgan gwrdd ag unrhyw fudiad gwirfoddol yn ystod y broses o drosglwyddo pwerau iaith i'r Cynulliad, er ei fod yn ddigon bodlon cwrdd â busnesau mawrion, mae dogfennau a ryddhawyd o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth wedi dangos.Yn ôl y wybodaeth a ddatguddiwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn ystod y trafodaethau ar y gorchymyn, mewn cyfres o 10 cyfarfod, cyfarfu'r cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan â sawl busnes mawr, ond dim un mudiad Cymraeg gwirfoddol yn cynrychioli siaradwyr neu ddefnyddwyr yr iaith.