Bydd sefydliadau gwrth-Gymraeg yng ngogledd Cymru yn elwa o gynlluniau'r Llywodraeth i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yn ôl siaradwyr mewn rali ym Mhorthmadog heddiw (Dydd Sadwrn, 19eg Mehefin).Bydd beirniadaeth lem o fethiannau ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr, i ddarparu gwasanaeth Cymraeg - nid oes un o'r cyfarwyddwyr y corff yn siarad Cymraeg. Mewn adroddiad diweddar gan bwyllgor Ewropeaidd o arbenigwyr, beirniadwyd y GIG yng Nghymru am fethu darparu gwasanaethau Gymraeg digonol.Bydd y bardd Twm Morys a'r canwr Ceri Cunnington hefyd yn annerch y protest.