Ar y diwrnod y mae agor enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol y mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi mynd i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin i lansio ymgyrch i bwyso ar yr ymgeiswyr "i ddal ar y cyfle olaf" i adfer y Gymraeg yn brif iaith Sir Gâr.
Dywedodd David Williams, isgadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin, wrth gefnogwyr a oedd yn dal baneri ar risiau Neuadd y Sir -
"Daeth canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn sioc mawr i bobl Sir Gâr wrth i ni weld y cwymp mwyaf trwy'r wlad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir. Talwn deyrnged i'r Cyngor sy'n dod i ben y mis nesaf am iddo, dan ddau wahanol arweinyddiaeth, gymryd o ddifri y dasg o gadarnhau'r Gymraeg yn y sir. Sefydlwyd gweithgor a chyhoeddwyd adroddiad a strategaeth newydd a chreu Fforwm Iaith Sirol gyda'r amcan o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir. Cymerwyd camau ymarferol o ran symud ysgolion tuag at addysg Gymraeg a chreu cyfleusterau hamdden Cymraeg.
"Ond y Cyngor newydd a gaiff ei ethol fis Mai a fydd yn llywodraethu'r sir hyd at y Cyfrifiad nesaf yn 2021. Galwn ar ymgeiswyr i ddal ar y cyfle olaf hwn i wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir. Gofynnwn iddynt ymrwymo i dri cham syml y gall pawb gytuno â nhw er mwyn creu cyfle i'r Gymraeg"
Dyma'r 3 cham neu gyfle a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas heddiw: