Morgannwg Gwent

Cyfarfod Cell Caerdydd

01/02/2017 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf Cell Caerdydd am 7yh yn nhafarn y Cornwall, Trelluest (Grangetown).

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 02920 486469 neu ebostiwch de@cymdeithas.cymru

Cyfarfod - Dathlu Amrywiaeth

18/01/2017 - 19:00

Dewch draw i Ganolfan Soar Merthyr Tudful 7yh nos Fercher Ionawr 18 i drafod a threfnu'r dathliad o amrywiaeth fydd yn digwydd fis Mawrth yng nghanol dre Merthyr.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ciaran drwy anfon ebost at de@cymdeithas.cymru neu ffonio 02920 486469.

Cyfarfod Cell Caerdydd

04/01/2017 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf Cell Caerdydd 7yh Nos Fercher, 4 Ionawr 2017, yn nhafarn y Cornwall, Grangetown. Croeso i bawb!

Cysylltwch â Ciaran am fwy o wybodaeth drwy ebostio de@cymdeithas.cymru neu ffonio 02920486469

Cyfarfod Dolig Rhanbarth Morgannwg Gwent

17/12/2016 - 11:00

Bydd cyfarfod Dolig rhanbarth Morgannwg Gwent yn digwydd:

11:00 Dydd Sadwrn, Rhagfyr 17 yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful

Enwogion yn galw am ddeg ysgol gynradd Gymraeg newydd i Gaerdydd

Mae’r Archesgob Barry Morgan ymysg dros ddwsin o enwogion sydd wedi galw ar Gyngor Caerdydd i ymrwymo i agor deg ysgol gynradd Gymraeg newydd ar draws y brifddinas dros y pum mlynedd nesaf.

Cwis Nadolig Cell Caerdydd

01/12/2016 - 20:00

Cwis Nadolig 8yh nos Iau Rhagfyr 1af, yn nhafarn y Cornwall.

Bydd yr arian a godir yn cael ei rannu rhwng y Gymdeithas a'r Eisteddfod.

Cysylltwch â Ciaran ar 02920 486469 neu de@cymdeithas.cymru am ragor o fanylion.

 

Cyfarfod Cell Caerdydd

* Mae dyddiad y cyfarfod wedi symud i 7yh nos Fercher, Rhagfyr 14 *

Cyfarfod Cell Caerdydd yn Nhafarn y Cornwall, Grangetown, Caerdydd, 7yh nos Fercher, Rhagfyr 14.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ciaran ar 02920 486469 neu de@cymdeithas.cymru.

Cyfle Swydd: Swyddog Maes Morgannwg-Gwent (ail hysbyseb)

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau bod y frwydr dros gryfhau'r Gymraeg yn digwydd yn y De.