Wedi i Gyngor Sir Benfro bleidleisio dros 100% o dreth ar ail gartrefi mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod angen i'r Llywodraeth weithredu nawr.
Dywedodd Bethan Williams, ysgrifennydd y Gymdeithas yn rhanbarth Caerfyrddin-Penfro:
"Mae hyn yn newyddion calonogol i gymunedau ar draws Sir Benfro, felly diolch i'r cynghorwyr a bleidleisiodd dros gynyddu'r dreth a phawb a ymgyrchodd dros y polisi. Bydd cyfle i ddiolch i'r Cyng. Cris Tomos, yn y rali ar y Parrog yn Nhrefdraeth ar y 23ain o Hydref.
"Byddwn ni'n defnyddio'r cyfle hefyd i ddweud wrth y Llywodraeth 'eich tro chi yw hi nawr' a galw arnyn nhw i roi mesurau mewn lle fel na all pobl fanteisio ar unrhyw fannau gwan i osgoi'r dreth a gosod cap ar ail dai."
Mae mwy o wybdoaeth am y rali ar y Parrog yn Nhrefdraeth ar y 23ain o Hydref i'w weld yma: https://www.facebook.com/events/356531512501601 neu trwy gysylltu â bethan@cymdeithas.cymru