Cymunedau Cynaliadwy

Y Gymraeg a chynllunio yng Nghymru gyfan

06/08/2018 - 14:00

Y Gymraeg a chynllunio yng Nghymru gyfan

Cyfarfod ymgyrch Tai Penrhyndeudraeth

27/06/2018 - 19:00

Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth yn stafell Sbardun am 7yh. Ymunwch a'r ymgyrch yn erbyn tai di-angen ym Mhenrhyndeudraeth!

 

 

Gwrthod tai Penrhosgarnedd "yn gynsail"

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i'r newyddion fod yr arolygaeth gynllunio wedi gwrthod

Ple i ail-ystyried penderfyniad 'niweidiol' i gau clybiau ieuenctid Gwynedd

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd i oedi eu penderfyniad i gau clybiau ieuenctid Gwynedd am flwyddyn er mwyn ail-ystyried y cynllun, gan rybuddio bod y penderfyniad yn 'yn niweidiol i les pobl ifanc a'u dyfodol, ac i'r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol'. 


Fe wnaeth cabinet y cyngor sir benderfyniad wythnos ddiwethaf i gau pob un o'r 39 clwb ieuenctid erbyn Y Pasg eleni, a chael un clwb fyddai'n gwasanaethu'r sir gyfan yn eu lle.

Llangefni: Tai i Bwy?

19/04/2018 - 19:00

Ym mis Gorffennaf 2017 ddoth chwe blynedd o ymgyrchu i’r fei gyda Chyngor Môn yn pleidleisio dros y cynllun datblygu lleol.

"150 o Dai – I BWY?" Cyfarfod Cyhoeddus ym Mhenrhyndeudraeth

08/02/2018 - 19:00

150 o Dai – I BWY?   

Dyna'r cwestiwn a drafodir yn y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth  7.00 – 9.00 Nos Iau, Chwefror 8ed.

Siaradwyr: Elfed Roberts, Menna Machreth, Siân Cŵper

Fis Gorffennaf, 2017, daeth chwe mlynedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith i ben wrth i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros y Cynllun Datblygu Lleol.O un bleidlais, pasiwyd cynllun i godi wyth mil o dai yng Ngwynedd a Môn erbyn 2026.

Anwybyddwch ganllawiau cynllunio newydd medd ymgyrchwyr

Mae mudiad iaith wedi galw ar gynghorau Cymru i anwybyddu Nodyn Cyngor Technegol 20, sydd newydd cael ei gyhoeddi.