Cymunedau Cynaliadwy

Brexit a’n tir: Cymorth i ffermwyr Cymru ar ôl Brexit

[agor y ddogfen fel PDF]

Brexit a’n tir: Cymorth i ffermwyr Cymru ar ôl Brexit

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Taliadau Ffermio: Rhybudd mudiad iaith am “Hunllef ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’”

Mae mudiad iaith wedi rhybuddio y gallai newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i daliadau ffermio ddinistrio'r Gymraeg ar lawr gwlad.  

Argyfwng allfudo, ond y Llywodraeth heb weithredu - lansiad 12 polisi economaidd

 

Cynghorau i sefydlu banciau lleol yn un o’r atebion mewn dogfen economaidd

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi dwsin o argymhellion i gryfhau’r economi ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, 13eg Hydref) mewn ymdrech i leihau’r allfudo o Gymru sy’n 'argyfwng i'r iaith’ yn ôl y Gymdeithas.

[Cliciwch yma i agor y ddogfen lawn]

Gwaith i Adfywio Iaith - Dogfen Bolisi Ymgynghorol

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Gwaith i Adfywio Iaith

Hydref 2018

1. Cyflwyniad

Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2011 ostyngiad nid yn unig yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, o 21% i 19%, ond hefyd yn nifer y wardiau gyda thros 70% yn medru’r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn yn byw yng Nghymru.

Galw am sefydlu adran Gymraeg i'r Llywodraeth y tu allan i Gaerdydd

Mae angen symud cannoedd o swyddi allan o’r brifddinas, meddai’r Gymdeithas

Dylid sefydlu adran newydd o fewn Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am y Gymraeg fel rhan o gynllun ehangach i symud cannoedd o swyddi i ardaloedd y tu allan i'r brifddinas, yn ôl ymgyrchwyr.

Gwaith i gynnal yr Iaith

15/09/2018 - 10:00

Cyfarfod Cyhoeddus dydd sadwrn y 15fed o Fedi am 10 y bore i drafod "Gwaith i gynnal yr Iaith" yn Llyfrgell Caerfyrddin. Mi fydd gwahanol grwpiau yn trafod prif faterion ein cymunedau gwledig. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â dyfed@cymdeithas.cymru neu 01559 384378

Cychwyn achos llys yn erbyn polisi cynllunio 'anghyfreithlon' y Llywodraeth

Mae ymgyrchwyr wedi cychwyn her gyfreithiol yn erbyn canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, y maen nhw'n honni sy'n atal cynghorwyr rhag ystyried effa

Cyfarfod Pwyllgor Tai Penrhyn

19/09/2018 - 19:00

Bydd Pwyllgor Tai Penrhyn sydd yn ymgyrchu yn erbyn y Tai di-angen yn yr ardal yn cyfarfod am 7 yn Festri Capel y Tabernacl, Penrhyndeudraeth am 7yh ar y 19fed o Fedi (nos fercher).