Powys

Cyfarfod Gigs Meifod

28/01/2015 - 19:00

Cyfarfod ym Meifod ar nos Fercher, Ionawr 28ain, er mwyn llunio lein-yp gigs y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol 2015 - croeso i unrhywun sydd a diddordeb fod yn rhan o drefnu'r gigs ddod i gael dweud eu dweud/

Rhagor o fanylion: post@cymdeithas.org / 01970 624501

Cyfarfod Adloniant Steddfod Meifod

15/10/2014 - 19:30

Clwb Rygbi COBRA

Wyt ti eisiau'r cyfle i ddysgu sut i drefnu digwyddiadau, helpu i hyrwyddo digwyddiadau, rhoi dy syniadau ar waith; neu eisiau bod yn rhan o'r lein-yp neu yn adnbaod rhywun sydd dere i glwb y COBRA nos Fercher y 15fedo Hyref.

Am fwy o fanylion cysyllta gyda ni – post@cymdeithas.org / 01970 624501

Cyfarfod Adloniant Steddfod Meifod 2015

22/09/2014 - 19:30

Clwb Rygbi COBRA, Meifod

Mae Clwb Rygbi'r COBRA ym Meifod wedi ei gadarnhau ar gyfer y gigs felly dere draw i'r COBRA nos Lun yr 22ain o Fedi i ddechrau'n iawn ar y cynllunio.

Mwy o wybodaeth - post@cymdeithas.org / 01970 624501 a cofia ddilyn @gigscymdeithas

 

Trafod Cynllun Datblygu Lleol Powys

02/09/2014 - 19:30

7:30pm, Medi 2, Brigands Inn, Mallwyd

Mae Cyngor Powys yn ymgynghori ar ei Gynllun Datblygu Lleol, a'r wybodaeth i gyd fan hyn - http://www.powys.gov.uk/cy/cynllunio-a-rheoli-adeiladu/cynllun-datblygu-lleol/

Mae'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Fedi'r 8fed felly byddwn ni'n paratoi ymateb y Gymdeithas i'r Cynllun Datblygu.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda ni - post@cymdeithas.org / 01970 624501

Falch o gyfle i ddathlu Eisteddfod - her i gyngor Powys

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin am fabwysiadu strategaeth iaith flaengar a all cryfhau’r Gymraeg yn sylweddol dros y blynyddoedd i ddod yn dilyn yr Eisteddfod yn y sir.

Wedi gohirio - Cyfarfod Cell Powys

01/07/2014 - 19:00

Yn anffodus rydyn ni'n gohirio'r cyfarfod, byddwn ni'n ail-drefnu ar gyfer Gorffennaf. Mwy o wybodaeth: post@cymdeithas.org / 01970 624501

Cyfarfod Rhanbarth Powys

03/06/2014 - 19:00

Cyfarfod Rhanbarth Powys - Clwb Rygbi Meifod

Dere i gyfrannu at ein hymgyrchoedd i Gymreigio Cyngor Powys ac i glywed mwy am ymgyrchoedd cenedlaethol y Gymdeithas

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu rhannu ceir o wahanol ardaloedd cysylltwch gyda Bethan - bethan@cymdeithas.org / 01970 624501

Cyfarfod Cell Powys

29/04/2014 - 19:00
Gydag Eisteddfod Genedlaethol 2015 ym Meifod ar y gorwel, a bod digon angen ei wneud yn y sir, mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld cyfle i sbarduno gweithgarwch yn ardal yr Eisteddfod ac ardal Maldwyn.
 

‘Gwleidyddiaeth y pethau bychain’ i ymateb i argyfwng y Gymraeg

Daeth ymgyrchwyr iaith o bob rhan o Gymru ynghyd ym Mhowys ddydd Sadwrn lle trafodon nhw ffyrdd i ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.

Buddugoliaeth Ysgol Carno - gobaith i gymunedau eraill

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu argymhelliad gan bennaeth addysg Cyngor Powys i gadw Ysgol Carno ar agor fel rhan o’i chynlluniau ad-drefnu addysg.