Dyfodol Darlledu Cymraeg

Ofcom a darlledu Am 3 o’r gloch prynhawn Dydd Iau, Mehefin 2il bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Drafod ar Ddyfodol Darlledu Cymraeg yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd.

Dywedodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae yna newidiadau mawr ar droed yn y byd darlledu yng Nghymru. Mae’n gyfnod cyffrous a chyfnewidiol wrth i bawb yn y maes geisio dirnad beth yw dyfodol y cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r chwyldro digidol yn cynnig cyfle newydd i’r Gymraeg,ond mae hefyd sawl her i’w goresgyn.""Ein bwriad yn Eisteddfod yr Urdd eleni yw cynnal trafodaeth agored ar ddyfodol darlledu a’r cyfryngau newydd a sut y gallwn sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg yn y datblygiadau hynny. Ymysg y pynciau a godir mae1. Dyfodol S4C2. Papur Gwyrdd y llywodraeth ar siarter newydd y BBC3. Effaith diffodd signalau teledu analog o fewn tair blynedd4. Y we a phlatfformau newydd o gyfathrebu5. Ariannu’r chwyldro digidol yn Gymraeg"6. Hybu’r rhithfro.”