Gwynedd Mon

Ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cynllun Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cynrychioli cwmnïau niwclear

Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cyhoeddiad am Borthladd Rhydd newydd ar Ynys Môn yr wythnos hon yn ffordd i mewn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd diangen ar yr ynys, gydag o leiaf chwech o gefnogwyr y cais â chysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiant.

Cyhuddo Cyngor Môn o weithredu’n groes i’w Polisi Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu bod Cyngor Môn yn gweithredu’n groes i’r amcan o wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor.

Neges Dydd Gŵyl Dewi i Gyngor Gwynedd – galw am arweiniad cadarn ar Addysg cyfrwng Cymraeg

Mewn datganiad ar y cyd ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi mae Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chylch yr Iaith wedi mynegi pryder ynglŷn â bwriadau Adran Addysg Gwynedd mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg.

Cau ffatri yn ergyd i gymunedau

Mae rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod cau ffatri Two Sisters yn Llangefni yn ergyd greulon i unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan, yn Llangefni a thu hwnt.

Targedu tai haf Môn

Mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri ar dai haf yn Rhosneigr ar Ynys Môn yn datgan "Nid yw Cymru ar Werth". 

Cyngor Gwynedd yn trafod treth ar ail dai

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghoriad ar bremiwm treth cyngor ar ail dai a thai gweigion yfory (dydd Mawrth 27/09).

Bydd gan Awdurdod Lleol y gallu i godi hyd at 300% o dreth cyngor ar ail dai a thai gweigion o fis Ebrill 2023 ond ond er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid iddynt ymgynghori yn gyhoeddus a chael cymeradwyaeth y Cyngor Llawn erbyn mis Ionawr 2023.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith:

Ddoe, Heddiw a Fory

14/01/2023 - 14:00

Llun o glawr y llyfr

Lle Arall, Stryd y Plas, Caernarfon

Cyfle i glywed sgwrs am y gyfrol Rhaid i Bopeth Newid efo'r golygydd Dafydd Morgan Lewis ac un o’r cyfranwyr, Angharad Tomos.

Yn dilyn hynny bydd sgwrs am ein maniffesto Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg, gyda Robat Idris, Mabli Siriol a Sel Wilias a thrafodaeth am ymgyrchoedd i Wynedd a Môn.

Croeso cynnes i bawb.

Camau Nesaf Ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth

Disgwylir cannoedd o bobl yn rali "Nid yw Cymru ar Werth" tu allan i swyddfeydd Cyngor Ynys Môn yn Llangefni am 1pm ddydd Sadwrn.

Rali Nid yw Cymru ar Werth - Gweithredwch Gynghorau Cymru

17/09/2022 - 13:00

Mae miloedd wedi dod i ralïau "Nid yw Cymru ar Werth" Iaith ar argae Tryweryn, o flaen y Senedd ac ar Bont Trefechan wrth i bobl ifanc gael eu gorfodi o'u cymunedau oherwydd ddiffyg tai i'w prynu na'u rhentu am bris rhesymol.

Cafwyd llwyddiant wrth i'r Llywodraeth gyflwyno grymoedd newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau. Rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio'r grymoedd yn llawn, gan y bydd y Torïaid a'r cyfoethog yn gwrthwynebu'n ffyrnig.

Rhy hwyr i Benllech - ond nid i ardaloedd eraill

Wedi i bobl Ynys Môn gael eu hatal rhag prynu tai newydd ar yr ynys fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gynnal piced i fynnu Deddf Eiddo fel nad oes rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.

Mae ystâd o 16 o dai ym Mrynteg, ger Benllech, yn cael eu hadeiladu, ag amod cynllunio arnynt sy'n golygu bod yn rhaid eu gwerthu fel cartrefi gwyliau, nid fel prif gartref.