Ers cyhoeddi canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad, rydyn ni wedi dweud nad oes diben eistedd yn ôl a derbyn y canlyniadau: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg. Ond, ar hyn o bryd, mae Carwyn Jones yn eistedd yn ôl, er i ni bwyso arno i flaenoriaethu 6 maes polisi o’r 38 o argymhellion yn ein Maniffesto Byw.
Mae'n amser i Lywodraeth Cymru ddatgan ei bwriad i weithredu'r 6 pheth yma:
1. Addysg Gymraeg i Bawb
2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg
3. Gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg
4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir
5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau
#6pheth #argyfwng
[Fersiwn Saesneg y tudalen / English]
Cyfrannwch i'r drafodaeth trwy drydar gyda'r hashnod #6pheth