Dyfodol polisïau sy’n effeithio ar y Gymraeg ‘yn y fantol’

Yn dilyn cwymp y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Llywodraeth i gadw at ymrwymiadau oedd yn y cytundeb yn ymwneud â’r Gymraeg, gan rybuddio bod sawl maes polisi y cytunwyd arnynt yn y fantol.

Dywedodd Dafydd Williams, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Yn dilyn cwymp y Cytundeb Cydweithio, galwn ar Lywodraeth Cymru i ddatgan eu bwriad i gadw at ymrwymiadau polisi sy’n ymwneud â'r Gymraeg a phrofi bod dyfodol yr iaith a’n cymunedau wrth wraidd ei gweledigaeth. Mae datblygiadau allweddol mewn sawl maes polisi sy'n effeithio ar y Gymraeg yn y fantol, ond disgwyliwn i’r rhain gael eu cyflawni mor bellgyrhaeddol â’r hyn oedd wedi ei addo yn y Cytundeb Cydweithio, os nad yn fwy.

“Byddwn ni'n disgwyl i'r Bil Addysg Gymraeg ddarparu addysg Gymraeg i bob disgybl, i’r Papur Gwyn ar Dai leddfu'r argyfwng tai mewn cymunedau Cymraeg a chynnwys mesurau radical fyddai’n mynd at wraidd niwed y farchnad dai agored, ac i'r Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru gael ei sefydlu yn fuan. Does dim rhaid i Lywodraeth Cymru ddibynnu ar gytundeb gyda phleidiau eraill er mwyn cyflawni dros Gymru.”