Rali Nid yw Cymru ar Werth

13/11/2021 - 15:00

Yn dilyn llwyddiant rali Tryweryn ym mis Gorffennaf, byddwn yn mynd a'r neges 'Nid yw Cymru ar werth' yn syth at Senedd Cymru ym mis Tachwedd.

Yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol yn y bore, bydd rali Caerdydd yn digwydd o flaen y Senedd am 3 o'r gloch y prynhawn gydag adloniant yn dechrau am 1.30.

Bydd hefyd cyfle i ymaelodi, cyfrannu neu brynu y crysau-t Nid yw Cymru ar Werth newydd sbon a baneri tafod i'w chwifio yn y rali.

Manylion pellach ar dudalen Facebook y digwyddiad.

Noder:

  • Peidiwch â mynychu os ydych yn anhwylus neu’n dangos unrhyw symptomau Cofid, neu os ydych wedi cael prawf positif diweddar.

  • Teithiwch ar wahân ac osydych yn rhannu car gwnewch hynny gydag unigolion sy'n rhannu aelwyd estynedig efo chi, neu ddefnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus (gan ddilyn canllawiau diogelwch y cwmni bysys/trenau).

  • Rydym yn eich annog i wisgo mwgwd a chadw pellter cymdeithasol.

  • Dilynwch gyfarwyddiadau'r stiwardiaid gwirfoddol fydd yn bresennol.

  • Bydd hylif diheintio ar y stondin nwyddau.