Lansio map ffordd tuag at addysg Gymraeg i bawb

Mewn sesiwn briffio yn y Senedd wythnos nesaf bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio gwaith ystadegol sy’n dangos y cynnydd sydd angen ei weld mewn addysg cyfrwng Cymraeg i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n ei dderbyn erbyn 2050.

Amcan y gwaith yw dangos bod y nod yn “gwbl gyraeddadwy” gydag ewyllys digonol gan y Llywodraeth.

Daw'r lansiad rai misoedd cyn i’r Llywodraeth gyflwyno ei Bil Addysg Gymraeg i’r Senedd. Pe bai’r Bil yn cael ei basio ar ei ffurf bresennol, byddai’n gosod nod statudol bod 50% o blant Cymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu i gynyddu’r nod i 100%. Mewn sesiwn briffio arbennig yn y Senedd ar 18 Ebrill sy’n cael ei noddi gan Heledd Fychan AS, bydd y mudiad yn lansio ‘Addysg Gymraeg i Bawb: Cyrraedd y Nod’, sef gwaith ymchwil ystadegol ar y cynnydd sy’n rhaid ei weld ym mhob sir bob 5 mlynedd i gyflawni hynny.

Bydd y sesiwn yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone. Yn siarad o flaen y lansiad, dywedodd:

“Mae’r Bil Addysg Gymraeg yn gyfle unigryw i Lywodraeth Cymru roi’r Gymraeg i bob plentyn sy’n byw yng Nghymru, ond mae perygl y bydd y cyfle’n cael ei fethu. Hyd yn oed pe bai’r Bil yn cyrraedd ei dargedau ei hun, byddai hanner ein plant yn cael eu hamddifadu o hyd. Nid dyna uchelgais pobl Cymru.

“Dylai bod gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl, ac addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o gyflawni hynny. Mae hi’n her enfawr ac mae angen ymdrech fawr i’w chyflawni, ond mae’r gwaith ystadegol rydym ar fin ei gyhoeddi yn dangos bod yr uchelgais yma’n gwbl gyraeddadwy gydag ewyllys gwleidyddol a chyllido digonol.”