Mewn Cyfarfod Arferol ar nos Lun, 11 Mawrth, cytunodd Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog yn unfrydol i basio cynnig yn ‘datgan cefnogaeth i alwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo’.
Daw y cyhoeddiad o flaen rali fawr Nid yw Cymru ar Werth yn y dref ar 4 Mai, lle bydd Beth Winter AS, Mabon ap Gwynfor AoS a’r cynghorydd Craig ab Iago ymysg rheiny fydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ‘Ddeddf Eiddo - Dim Llai’ i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel cartrefi.
Wrth ymateb, dywedodd David Meirion Jones, a gyflwynodd y cynnig:
“Mae hi’n sefyllfa anodd iawn ar hyn o bryd i'r bobl ifanc hynny sydd am gael tai yn lleol. Digwydd bod, mae'n amserol iawn hefyd gan fod Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu cynnal rali Deddf Eiddo yn y dref ar 4 Mai.
"Cofiwch ddod draw i gefnogi os ydych yn cytuno y dylai pawb gael yr hawl i gartref yn lleol. Mae hi'n faes hynod o gymhleth a phitw iawn yw'r grym sydd gan Gynghorau Tref i ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau cynllunio yn y pen draw.”
Dywedodd Osian Jones, aelod o weithgor Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni mor falch o gynnal y rali mewn cymuned lle mae'r Cyngor Tre lleol wedi mynegi cefnogaeth 100% i'r nod o gyflwyno Deddf Eiddo i roi rheolaeth i'n cymunedau dros eu tir a'u tai. Ni wnaiff ddim llai na Deddf Eiddo gyflawn y tro gan na all ein cymunedau Cymraeg ddisgwyl am flynyddoedd eto cyn bod y Llywodraeth yn unioni anghyfiawnder presennol y farchnad dai."
Mewn cynnig atodol, cytunwyd yn unfrydol i chwifio baner Cymdeithas yr Iaith ar adeilad y cyngor ar ddiwrnod y rali.