Dafydd Iwan i siarad mewn rali yn galw ar y Llywodraeth i weithredu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw mai Dafydd Iwan fydd siaradwr gwadd Rali'r Cyfri yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn Ionawr 14.

Bydd y rali yn galw am weithredu brys dros y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn wyneb canlyniadau'r Cyfrifiad a gyhoeddwyd fis diwethaf. Dangosodd y Cyfrifiad mai yn Sir Gâr unwaith eto y bu'r dirywiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.

Disgwylir i gannoedd o bobl ddod i'r rali tu allan i Neuadd y Sir, lle bydd arweinydd y Cyngor Sir Darren Price yn bresennol, ac anerchiad gan yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac Addysg, y Cyng Glynog Davies.
Bydd y cefnogwyr wedyn yn gorymdeithio trwy'r dref at swyddfa Llywodraeth Cymru lle cyflwynir gofynion y Gymdeithas am fframwaith cenedlaethol i hyrwyddo'r iaith.

Eglurodd Swyddog Cyfathrebu'r Gymdeithas yn Sir Gâr Ffred Ffransis "Er bod llawer o hyd i'w gyflawni yma yn Sir Gâr, cydnabyddwn fod y Cyngor Sir erbyn hyn yn gweithio trwy strategaeth ddifrifol i hyrwyddo'r Gymraeg gyda'r nod o'i gwneud eto'n brif iaith y sir. Ar y llaw arall, nid yw hyrwyddo'r iaith na chymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth o gwbl gan Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, a byddwn yn cyflwyno cyfres o ofynion am weithredu argyfwng dros y Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Ffransis "Rydyn ni wrth ein bodd hefyd i allu cyhoeddi fod Dafydd Iwan wedi dewis bod gyda ni ar y dydd er gwaetha'r holl ofynion eraill ar ei amser. Ganwyd Dafydd yn Sir Gâr a threuliodd ei blentyndod ym Mrynaman ar adeg pan oedd 78% o bobl y sir yn siarad Cymraeg. Ers hynny, mae'r canran wedi union haneru, ond rwy'n siŵr y bydd Dafydd yn ein hatgoffa fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac y bydd yn ein hysbrydoli i weithio dros yr iaith a chymunedau Cymraeg y sir. Ymhlith y posteri a baneri fe fydd baner â geiriau enwog Dafydd Iwan 'Yma o Hyd' - i atgoffa pawb ein bod yn dal yma ac yn benderfynol o bwyso ar y Llywodraeth i weithredu"

Bydd y rali yn cael ei chynnal o 2pm wrth neuadd y Sir, Caerfyrddin.
Mae mwy o wybodaeth am y rali yma