18/05/2019 - 11:00
Tai Pwy? Argyfwng tai ledled Cymru!
Gyda phroblemau fel prisiau tai yn codi, mwy a mwy o dai haf ac ail gartrefi, newid enwau tai a mwy, bydd Sel Jones yn holi Liz Saville Roberts, Elin Hywel ac eraill am yr effaith ar gymunedau, yr angen lleol a datrysiadau posib.
Dewch i Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth i wrando a rhannu am 11:00yb ar y 18fed o Fai.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwion Emyr drwy ebostio gogledd@cymdeithas.cymru neu ffonio 01286 662 908