Mae caredigion yr iaith wedi cwyno bod ymgynghoriad ar gynlluniau i adeiladu tua wyth mil o dai yn sir Gwynedd ac Ynys Môn yn 'cau pobl allan' wedi iddi ddod i'r amlwg y bydd yr holl gyfarfodydd cyhoeddus ar y cynllun yn ystod oriau gwaith.
Mae'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan ei bwriad o geisio arfogi trigolion siroedd Gwynedd a Môn yn y broses o gasglu barn gyhoeddus am y cynllun tai, fydd yn cychwyn ar Chwefror 16 2015.
Meddai Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd.
“Fel rhai sydd wedi ymgyrchu yn erbyn gor-ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol
ers blwyddyn a mwy, rydym yn grediniol ein barn bod y broses o lunio'r cynllun
gorffenedig yn cyrraedd cyfnod allweddol iawn”
Cynhaliodd dau gant pum deg o ymgyrchwyr iaith brotest heddiw (Dydd Sadwrn, 24ain Ionawr) mewn ymdrech i wrth-droi penderfyniad cymdeithas dai yng Ngwynedd i beidio cynnwys y Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer swyddi rheoli haen uchel.
Siaradwyr: Sian Gwenllian, Dafydd Iwan, Menna Machreth, Simon Brooks, Ieu Wyn, Hywel Williams AS
Ym mis Medi 2014, penderfynodd Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) hysbysebu dwy o'i swyddi haen uchel heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a heb osod amod fod rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu Cymraeg.
Yn ystod y misoedd nesaf, mi fydd Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd / Mon yn mynd allan am ymgynghoriad cyhoeddus, dyma'r unig gyfle y bydd gennych i leisio barn am y cynllun sydd am weld adeiladu miloedd o dai yn y ddwy sir. Dewch i fod yn rhan o'r drafodaeth er mwyn trefnu ein hymateb.
Bu'r meirw byw yn crwydo strydoedd Caernarfon heddiw (Dydd Gwener, Hydref
31ain) mewn protest yn erbyn cwmni Horizon Nuclear sydd eisiau adeiladu
adweithydd niwclear newydd yn y Wylfa.
Mae'r cwmni wrthi'n cynnal cyfres o gyfarfodydd fel rhan o ymgynghoriad
cymunedol am yr atomfa newydd, ac heddiw aeth criw o aelodau Cymdeithas yr
Iaith i'r cyfarfod yng Ngwesty’r Celtic Royal Caernarfon wedi gwisgo fel
Meirw Byw (Zombies) er mwyn amlygu peryglon ynni niwclear i ddyfodol