Llŷr Gruffydd AC (Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Addysg), ElaineEdwards (Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC), Mirain Roberts (Cymdeithas yr Iaith) a'r Cynghorydd Mair Rowlands (Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd)
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau cynghorau ar gyfer addysg Gymraeg.
Yn ôl gwaith ystadegol a gyhoeddir gan Gymdeithas yr Iaith, bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r penderfyniad i ehangu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i addysg bellach, ond mae'r mudiad yn holi a yw'r ewyllys gwleidyddol gan y llywodraeth i ddyrannu'r adnoddau i sicrhau llwyddiant y datblygiad hwn.
Meddai Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
Gallai diffyg ymroddiad cynghorau i ehangu addysg Gymraeg danseilio ymdrechion cenedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, dyna oedd rhybudd ymgyrchwyr mewn rali yng Nghaerdydd heddiw.