Cynigion Cyfarfod Cyffredinol 2020

[Cliciwch yma am fersiwn pdf]

1. Cerdyn banc

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol, bod trefniant gwneud taliadau wedi newid dros y blynyddoedd, a bod angen sicrhau bod staff cyflogedig yn gallu talu am eitemau gyda cherdyn banc, heb orfod mynd i'w pocedau eu hunain i dalu ac yna hawlio'r arian yn ôl.

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol hefyd, er mwyn sicrhau cerdyn banc gyda chyfrif HSBC, bod angen cynnwys cymal perthnasol o fewn Cyfansoddiad y Gymdeithas.

Cytuna’r Cyfarfod Cyffredinol ychwanegu'r cymal isod i'r Cyfansoddiad (ar ôl pwynt 9):

10. Cyfrif Banc

Y Trysorydd sydd yn gyfrifol am gyfrif banc y Gymdeithas. Bydd cerdyn banc ynghlwm â'r cyfrif banc ar gyfer defnydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Rhoddir awdurdod i'r Ysgrifennydd Cyffredinol ddefnyddio'r cerdyn i dalu am nwyddau neu wasanaethau angenrheidiol hyd at swm a bennir gan y Senedd.

Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith

 

2. Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb

Yn cynnig bod y Cyfarfod Cyffredinol:

1. yn nodi bod Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ei dogfen weledigaeth newydd ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb

2. yn nodi prif alwadau’r ddogfen, sef:

Mwy na dyblu defnydd y Gymraeg, drwy:

  • osod targed i greu mil o ofodau uniaith Gymraeg newydd, gan gynnwys cymunedau daearyddol

  • sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg, fel cam tuag at drosglwyddo pwerau darlledu i Gymru

  • cynyddu’r buddsoddiad o 0.15% i 1% o wariant y llywodraeth, neu £186 miliwn y flwyddyn, ar brosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg erbyn 2025/26.

Creu mwy na miliwn o siaradwyr drwy:

  • basio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb

  • buddsoddi £100 miliwn dros 10 mlynedd mewn hyfforddiant i’r gweithlu addysg a gofal plant

  • cynyddu’r targed presennol ar gyfer canran yr athrawon newydd eu hyfforddi sy’n medru’r Gymraeg o 30% i 80% erbyn 2026.

Gweithredu agenda ‘Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’ drwy:

  • sefydlu Cronfa ‘Mynediad at yr Iaith’

  • sefydlu’r hawl i bawb, o bob oed, ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim

  • osod amodau ar grantiau cyhoeddus i ymestyn yr iaith i grwpiau sydd wedi’u heithrio ohoni.

3. yn nodi bod y ddogfen hefyd yn cynnig trethi newydd i Gymru i ariannu’r cynigion, gan gynnwys treth ar AirBnB a thwristiaeth; uwch-dreth ar elw landlordiaid ac ail gartrefi ac ardoll ar gwmnïau digidol a thelathrebu

4. yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu’r polisïau hyn a gweddill y cynigion yn y ddogfen cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, a sicrhau bod y Llywodraeth nesaf yn gweithredu agenda mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb.

Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith

 

3. 'Bargen Wledig' i Gymru

(noder: derbyniwyd gwelliant i'r cynnig hwn sydd wedi'i dderbyn gan y cynigydd felly'r cynnig sy'n sefyll yw'r cynnig wedi'i wella)

Cynnig Gwreiddiol

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Bargen Wledig i Gymru i gyfateb i'r holl fuddsoddiad yn y Bargeinion Dinasoedd Rhanbarth, ac er mwyn amddiffyn cymunedau gwledig Cymraeg sydd dan fygythiad o bob cyfeiriad.

Byddai Bargen Wledig yn:

(a) sefydlu Cronfa Prynu Tai ar y farchnad i'w rhentu i bobl leol, a chytundebau rhan-berchnogaeth

(b) sefydlu Cronfa Hybu Mentrau Cydweithredol ym maes hamdden a gweithgareddau awyr agored i gynhyrchu incwm o fanteisio ar ein hadnoddau naturiol

(c) cymorth i gynnal gwasanaethau gwledig hyfyw, e.e. ysgolion, siopau, etc

(ch) cymorth i gefnogi amaeth teuluol yn wyneb her Brecsit.

Gwrthodwn y syniad y bydd buddsoddiad mewn ardaloedd trefol yn dod â budd otomatig i gymunedau gwledig o'u cwmpas ac, er tegwch, galwn am fuddsoddiad wedi ei deilwra at anghenion cymunedau gwledig.

Cynigydd: Ffred Ffransis

Eilydd: Elfed Wyn Jones

Gwelliant (a gynigiwyd gan Senedd y Gymdeithas)

Ychwanegu ar ddechrau’r cynnig:

Nodi bod Bargeinion Dinesig Llywodraethau Prydain a Chymru fel maent yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn seiliedig ar wreiddio polisïau economaidd neoryddfrydol sy’n niweidiol i’n cymunedau, gan gronni buddsoddiad mewn ardaloedd trefol a rhoi ardaloedd gwledig dan anfantais, heb chwaith ddod â budd i bobl gyffredin ein dinasoedd.

Ychwanegu ar ôl pwynt (ch):

(d) sefydlu dyletswydd ar y Llywodraeth i hybu twf economaidd a lledaenu ffyniant ledled y wlad.

Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i fabwysiadu model economaidd newydd fydd yn dod â budd i bob rhan o’r wlad ac wedi’i seilio ar roi lles ein pobl, cymunedau a’r amgylchedd cyn elw. Dylai hyn gynnwys gweithredu’r cynigion polisi yn ein dogfen weledigaeth Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb i gryfhau economi a chymunedau ein hardaloedd gwledig.

Cynnig wedi'i wella

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn nodi bod Bargeinion Dinesig Llywodraethau Prydain a Chymru fel maent yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn seiliedig ar wreiddio polisïau economaidd neoryddfrydol sy’n niweidiol i’n cymunedau, gan gronni buddsoddiad mewn ardaloedd trefol a rhoi ardaloedd gwledig dan anfantais, heb chwaith ddod â budd i bobl gyffredin ein dinasoedd.

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Bargen Wledig i Gymru i gyfateb i'r holl fuddsoddiad yn y Bargeinion Dinasoedd Rhanbarth, ac er mwyn amddiffyn cymunedau gwledig Cymraeg sydd dan fygythiad o bob cyfeiriad.

Byddai Bargen Wledig yn:

(a) sefydlu Cronfa Prynu Tai ar y farchnad i'w rhentu i bobl leol, a chytundebau rhan-berchnogaeth

(b) sefydlu Cronfa Hybu Mentrau Cydweithredol ym maes hamdden a gweithgareddau awyr agored i gynhyrchu incwm o fanteisio ar ein hadnoddau naturiol

(c) cymorth i gynnal gwasanaethau gwledig hyfyw, e.e. ysgolion, siopau, etc

(ch) cymorth i gefnogi amaeth teuluol yn wyneb her Brecsit

(d) sefydlu dyletswydd ar y Llywodraeth i hybu twf economaidd a lledaenu ffyniant ledled y wlad.

Gwrthodwn y syniad y bydd buddsoddiad mewn ardaloedd trefol yn dod â budd otomatig i gymunedau gwledig o'u cwmpas ac, er tegwch, galwn am fuddsoddiad wedi ei deilwra at anghenion cymunedau gwledig.

Galwn ar Lywodraeth nesaf Cymru i fabwysiadu model economaidd newydd fydd yn dod â budd i bob rhan o’r wlad ac wedi’i seilio ar roi lles ein pobl, cymunedau a’r amgylchedd cyn elw. Dylai hyn gynnwys gweithredu’r cynigion polisi yn ein dogfen weledigaeth Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb i gryfhau economi a chymunedau ein hardaloedd gwledig.

Cynigydd: Ffred Ffransis

Eilydd: Elfed Wyn Jones

 


4. Ymwneud â phleidiau gwleidyddol

1. Cadarnha’r Cyfarfod Cyffredinol:

(i) Ein bod, fel mudiad, yn credu mewn creu cymdeithas gynhwysol, sy'n croesawu pobl i'n gwlad waeth beth eu cefndir a hunaniaeth. Dylai'r Gymraeg a Chymru gynnwys a chroesawu pawb.

(ii) Ni ddylem fel mudiad ymwneud â phleidiau gwleidyddol sy’n hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn unrhyw grŵp yn ein cymdeithas megis pobl LHDT+, pobl groenliw, mudwyr a merched.

2. Noda’r Cyfarfod Cyffredinol:

(i) fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng pleidiau sy’n hybu neu oddef ideoleg adain dde eithafol ac agweddau rhagfarnllyd, a phleidiau gwleidyddol sydd ag aelodau sy’n arddel yr agweddau hynny, yn groes i bolisi a gweithredoedd swyddogol y blaid

(ii) fod rhai pleidiau wedi dangos patrwm o weithredoedd sy’n dangos eu bod yn cyrraedd o drothwy a nodir ym mhwynt 1(ii) uchod.

3. Yn unol â’r safbwyntiau uchod, ni fydd y Gymdeithas felly yn ymwneud â’r BNP, Britain First, Gwlad Gwlad, UKIP na Phlaid Brecsit.

4. Galwn yn ychwanegol ar holl bleidiau Cymru i fynd ati’n rhagweithiol i addysgu eu haelodau etholedig, aelodau cyffredin ac ymgeiswyr ar bwysigrwydd cydraddoldeb a herio agweddau rhagfarnllyd lle mae’r rhain yn codi.

Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith

Dolenni Perthnasol / Gwybodaeth gefndirol:

https://cymdeithas.cymru/blog/miliwn-o-siaradwyr-cymraeg-dymar-cyfle (rhesymeg peidio ag ymwneud ag UKIP)

https://cymdeithas.cymru/newyddion/cynulliad-yn-rhwystro-mudiad-iaith-rhag-rhoi-tystiolaeth

 

5. Rhagrith Llywodraeth Cymru ar bwerau darlledu i Gymru

Nodwn:

(i) ddatganiadau blaenorol Dafydd Elis Thomas AS yn cefnogi trosglwyddo pwerau darlledu i Gymru

(ii) bod Dafydd Elis-Thomas AS, fel y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru gyda phortffolio sy'n cynnwys materion darlledu, wedi dweud yn ddiweddar mewn cyfarfod gyda dirprwyaeth o'r Gymdeithas ei fod yn cytuno mewn egwyddor gyda datganoli pwerau darlledu i Gymru

(iii) bod nifer o wleidyddion yn y Senedd, sy'n cynrychioli pleidiau nad ydynt gyda pholisi o blaid pwerau darlledu i Gymru, yn cwyno'n aml am ddiffygion a cham-adrodd straeon pan ddaw hi at faterion datganoledig.

Felly, collfarnwn Lywodraeth Cymru, a Dafydd Elis Thomas AS yn benodol, am eu methiant i weithredu, eu rhagrith a'u geiriau gweigion ar y materion hyn.

Galwn ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu sicrhau pwerau darlledu i Gymru.

Cynigir gan y Grŵp Dyfodol Digidol

 

6. Rhwystro newid enwau tai Cymraeg

Nodwn:

  • mae newid enwau tai Cymraeg (i enwau Saesneg gan amlaf) yn bwnc llosg

  • mae hyn yn dileu treftadaeth ein cymunedau ac yn lleihau amlygrwydd a gweladwyedd y Gymraeg

  • mae nifer o berchnogion tai yn pryderu am beth fydd yn digwydd i'r hen enwau ar ôl iddynt gwerthu'r tŷ

  • mae modd cynnwys cymal mewn cytundeb gwerthu i wahardd y perchnogion newydd (a'r rhai ar eu hôl) rhag newid enw'r tŷ. I gyflawni hyn, mae angen rhywun i fod yn ceidwad i'r cyfamod.

Credwn:

  • bydd nifer sylweddol o berchnogion eiddo yn croesawu'r cyfle hwn

  • yn ogystal â gwarchod enwau rhai tai o gwmpas Cymru, gall hyn helpu rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar y pwnc.

Penderfynwn:

  • annog perchnogion tai/eiddo i gynnwys cymal mewn cytundeb gwerthu na allai'r perchnogion newydd newid enw'r tŷ/eiddo

  • cynnig y Gymdeithas fel ceidwad i'r cyfamodau.

Cynigir gan y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

 

 

7. Gwarchod democratiaeth Cymru

1. Cadarnha Senedd y Gymdeithas:

(i) ein bod, fel mudiad, yn credu mewn Cymru Rydd

(ii) fod pobl Cymru wedi rhoi eu cydsyniad dros ddatganoli mewn dwy refferendwm (1997 a 2011), a phump etholiad (ble enillodd pleidiau oedd o blaid datganoli y mwyfafrif o’r seddi a’r pleidleisiau)

(iii) fod datganoli wedi bod yn gadarnhaol i’r Gymraeg (er gwaethaf methiannau Llywodraeth Cymru parthed yr iaith).

2. Noda’r Senedd:

(i) fod y Llywodraeth Brydeinig bresennol eisoes wedi canoli rhai pwerau gwleidyddol yn San Steffan

(ii) fod Llywodraeth y DU, yn ei chynlluniau ar gyfer deddf newydd ar farchnad fewnol y DU (a’u cyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2020), yn bwriadu canoli nifer o bwerau mewn amryw o feysydd datganoledig, o’r economi ac isadeiledd i amaeth a safonau bwyd, yn San Steffan

(iii) fod yr uchod yn ymosodiad gwbl anemocrataidd ar ddatganoli yng Nghymru (gyda Llywodraeth a Senedd etholedig Cymru yn erbyn y cynlluniau hyn), a'i fod yn gwneud yn anoddach i gyflawni ein nod o Gymru Rydd.

3. Yn unol â’r safbwyntiau uchod, bydd y Gymdeithas yn:

(i) ymgyrchu i warchod democratiaeth Cymru, gan ei gwneud yn glir na fyddwn yn derbyn unrhyw sefyllfa ble fydd pwerau yn symud o’n Senedd genedlaethol i San Steffan.

Cynigir gan Ranbarth Gwynedd-Môn

 


8. Cymraeg – Iaith Hamdden

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn datgan ein siom fod y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon wedi amlygu nad oes bwriad gan y Llywodraeth bresennol i symud tuag at wneud y Gymraeg yn brif iaith Hamdden a Chwaraeon yng Nghymru. Galwn ar bleidiau gwleidyddol sydd ag uchelgais i ffurfio'r llywodraeth nesaf i fabwysiadu amcanion yr ymgyrch.

Galwn am ddwysau'r ymgyrch yn ystod y flwyddyn nesaf trwy rannu'r amcanion fel a ganlyn.

(i) Gofynnwn i'r Grŵp Addysg gymryd cyfrifoldeb am yr amcan gyntaf "i hybu symudiad at ddysgu Chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru – mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i drefnu hyfforddiant mewn swydd i athrawon".

(ii) Gofynnwn i'r Grŵp Hawl gymryd cyfrifoldeb am yr ail amcan "i drafod gyda Chyrff Chwaraeon Cenedlaethol fod Cyrsiau Hyfforddi yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg a bod gweinyddiaeth y cyrff yn gwbl ddwyieithog – mewn cydweithrediad â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a gweithredu i gynnwys y Cyrff Chwaraeon Cenedlaethol yn y safonau iaith”.

(iii) Gofynnwn i'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy gymryd cyfrifoldeb am y drydedd amcan "i sefydlu'n arbennig Gronfa Gweithgareddau Awyr Agored – a fydd yn gallu rhoi grantiau a benthyciadau i helpu sefydlu mentrau cydweithredol i drefnu gweithgareddau awyr agored Cymraeg ac ar gyfer ymwelwyr, gan ddefnyddio adnoddau naturiol Cymru i greu swyddi ar gyfer pobl ifainc lleol”. Caiff hwn ei weithredu dan ymgyrch dros 'Fargen Wledig' i Gymru os caiff y cynnig hwnnw ei basio gan y Cyfarfod Cyffredinol.

(iv) Rhoddwn yr hawl i Senedd y Gymdeithas i gyfethol aelod os bydd ymgyrch sydd naill ai tu allan i fframwaith ein grwpiau ymgyrchu cyfredol neu, fel yn yr achos hwn, yn draws-ffiniol. Yng nghyd-destun yr ymgyrch hon, swyddogaeth yr aelod portffolio fyddai codi proffil yr ymgyrch gyfan 'Cymraeg – Iaith Hamdden' a helpu'r tri grŵp ymgyrchu gyda'r amcanion unigol.

Cynigydd: Ffred Ffransis

Eilydd: Bethan Williams

 

9. Yr argyfwng tai

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol:

  • yn sgil pandemig byd-eang COVID-19, gwelwyd amlygu eto’r broblemau’r farchnad dai a’i effaith ar gymunedau Cymru, ac felly ar y Gymraeg. Dengys ffigyrau gan Awdurdod Refeniw Cymru fod 40% o’r tai a brynwyd yng Ngwynedd rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020 wedi eu prynu i fod yn ail-gartrefi neu’n dai haf.

Creda’r Cyfarfod Cyffredinol:

  • bod pandemig COVID-19 wedi dwysáu’r argyfwng dai, a gwaethygu sefyllfa oedd yn ddyrys a diobaith i bobl ifanc nag oedd eisoes

  • bod angen i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a chymdeithas sifig gydnabod bod argyfwng eiddo yng Nghymru, a bod angen gweithredu ar frys drwy ddeddfau sy’n gweithio o blaid cymunedau lleol ac yn erbyn y farchnad rydd sydd yn prysuro marwolaeth cymunedau hyfyw a Chymraeg.

Penderfyna’r Cyfarfod Cyffredinol:

  • galw ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gynnal ymchwiliad i’r argyfwng a fydd yn cael effaith dybryd ar allu pobl ifanc i fyw yn eu cymunedau yn y dyfodol

  • galw ar Gynghorau Sir a Chymuned i ddatgan bod argyfwng

  • galw ar bob plaid i flaenoriaethu mynd i’r afael â’r argyfwng yn eu maniffestos ar gyfer Etholiad 2021

  • galw ar bawb i bwyso am 6 phwynt deddf eiddo fel cam cyntaf i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Cynigir gan Ranbarth Gwynedd-Môn

 


10. Mae bywydau du o bwys

Yn cynnig bod y Cyfarfod Cyffredinol:

  1. yn nodi ac yn ail-gymeradwyo’r cynnig a basiwyd gan Gyfarfod Cyffredinol 2018, ‘Sefyll yn erbyn hiliaeth’, oedd yn datgan bod y frwydr dros gyfiawnder i’r Gymraeg ynghlwm â’r frwydr dros gyfiawnder hil, dadgoloneiddio a chyfiawnder i bob grŵp sy’n profi gormes, ac yn galw ar aelodau’r Gymdeithas i weithio i amlygu a mynd i’r afael â’r materion hyn

  2. yn datgan bod Cymdeithas yr Iaith yn cydsefyll â’r mudiad byd eang Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter) yn erbyn hiliaeth, goruchafiaeth wen, imperialaeth a thrais yr heddlu

  3. yn nodi bod dogfen weledigaeth newydd y Gymdeithas, Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb, yn cynnwys polisïau i fynd i’r afael â’r rhwystrau mae rhai grwpiau, a phobl groenliw yn benodol, yn eu hwynebu o ran mynediad at ddysgu a defnyddio’r Gymraeg

  4. yn nodi pwysigrwydd cynnwys pobl groenliw ac ystyriaeth o’r materion sy’n effeithio arnynt yn ein gwaith ni fel mudiad, a bod rhaid cymryd rhagor o gamau cadarnhaol i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyson

  5. yn galw ar Senedd y Gymdeithas, ein grwpiau ymgyrchu, celloedd a rhanbarthau, a’n holl aelodau, i gymryd agwedd ragweithiol tuag at wrthwynebu hiliaeth o bob math ac archwilio ffyrdd o gynnwys rhagor o bobl groenliw yn ein gwaith a sicrhau bod y materion sy’n effeithio arnynt yn cael eu hystyried yn llawn.

Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith

 

Gwybodaeth gefndirol: Penderfyniad ‘Sefyll yn erbyn hiliaeth’ 2018

  1. nodi twf yr adain dde eithafol ar draws y byd, y cynnydd mewn troseddau casineb ar sail hil a normaleiddio sylwadau rhagfarnllyd ym mywyd cyhoeddus

  2. nodi er bod y Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru, mae cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn tueddu cael eu cau allan o’r Gymraeg yn ein system addysg a bod rhaid i hyn newid

  3. cymeradwyo safiad Cymdeithas yr Iaith i beidio ag ymwneud ag Ukip a phleidiau arall ar y dde eithafol oherwydd eu safbwyntiau rhagfarnllyd, ac yn galw eto ar eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru i wneud yr un safiad

  4. gwrthod yr alwad gan rai ar ymgyrchwyr dros y Gymraeg a Chymru i beidio ag ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar grwpiau dan ormes, a’r honiad bod y materion yma’n rhai ‘ymylol’

  5. datgan bod Cymdeithas yr Iaith yn sefyll yn erbyn pob math o hiliaeth, a bod y frwydr dros gyfiawnder i’r Gymraeg ynghlwm â’r frwydr dros gyfiawnder hil, dadgoloneiddio a chyfiawnder i bob grŵp sy’n profi gormes; mae gan bob un ohonom sy’n rhan o’r frwydr, a Chymdeithas yr Iaith fel mudiad, gyfrifoldeb dros ddadansoddi ac amlygu’r cysylltiadau hyn

  6. galw ar sefydliadau cyhoeddus Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â hiliaeth a than-gynrychiolaeth cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn ein bywyd cyhoeddus

  7. galw ar Senedd y Gymdeithas, ein grwpiau ymgyrchu, celloedd a rhanbarthau, a’n holl aelodau, i gymryd agwedd rhagweithiol tuag at herio hiliaeth a chymryd cyfleoedd i gyd-sefyll â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

 

11. Strwythur a thâl aelodaeth y Gymdeithas

Yn cynnig:

  1. symleiddio’r strwythur aelodaeth a chreu dau gategori, sef Aelodaeth, ac Aelodaeth Ostyngol. Bydd aelodaeth ostyngol ar gael i “e.e. disgyblion, myfyrwyr, pensiynwyr, pobl ar incwm isel”, ond enghreifftiau yw’r rhain ac nid rhestr gynhwysfawr, a fydd dim gofyn i neb brofi eu statws er mwyn cael aelodaeth ostyngol.
  2. newid y tâl aelodaeth a chodi isafswm o £2 y mis ar gyfer aelodaeth gyffredin a £1 y mis ar gyfer aelodaeth ostyngol. Aelodaeth i’w thalu’n fisol fydd y dewis diofyn o hyn ymlaen yn hytrach nag aelodaeth blwyddyn.
  3. bod y strwythur a’r ffioedd newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021.

Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith