1. Cerdyn banc
Noda'r Cyfarfod Cyffredinol, bod trefniant gwneud taliadau wedi newid dros y blynyddoedd, a bod angen sicrhau bod staff cyflogedig yn gallu talu am eitemau gyda cherdyn banc, heb orfod mynd i'w pocedau eu hunain i dalu ac yna hawlio'r arian yn ôl.
Noda'r Cyfarfod Cyffredinol hefyd, er mwyn sicrhau cerdyn banc gyda chyfrif HSBC, bod angen cynnwys cymal perthnasol o fewn Cyfansoddiad y Gymdeithas.
Cytuna’r Cyfarfod Cyffredinol ychwanegu'r cymal isod i'r Cyfansoddiad (ar ôl pwynt 9):
10. Cyfrif Banc
Y Trysorydd sydd yn gyfrifol am gyfrif banc y Gymdeithas. Bydd cerdyn banc ynghlwm â'r cyfrif banc ar gyfer defnydd yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Rhoddir awdurdod i'r Ysgrifennydd Cyffredinol ddefnyddio'r cerdyn i dalu am nwyddau neu wasanaethau angenrheidiol hyd at swm a bennir gan y Senedd.
Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith
2. Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb
Yn cynnig bod y Cyfarfod Cyffredinol:
1. yn nodi bod Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ei dogfen weledigaeth newydd ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb
2. yn nodi prif alwadau’r ddogfen, sef:
Mwy na dyblu defnydd y Gymraeg, drwy:
-
osod targed i greu mil o ofodau uniaith Gymraeg newydd, gan gynnwys cymunedau daearyddol
-
sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg, fel cam tuag at drosglwyddo pwerau darlledu i Gymru
-
cynyddu’r buddsoddiad o 0.15% i 1% o wariant y llywodraeth, neu £186 miliwn y flwyddyn, ar brosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg erbyn 2025/26.
Creu mwy na miliwn o siaradwyr drwy:
-
basio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb
-
buddsoddi £100 miliwn dros 10 mlynedd mewn hyfforddiant i’r gweithlu addysg a gofal plant
-
cynyddu’r targed presennol ar gyfer canran yr athrawon newydd eu hyfforddi sy’n medru’r Gymraeg o 30% i 80% erbyn 2026.
Gweithredu agenda ‘Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’ drwy:
-
sefydlu Cronfa ‘Mynediad at yr Iaith’
-
sefydlu’r hawl i bawb, o bob oed, ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim
-
osod amodau ar grantiau cyhoeddus i ymestyn yr iaith i grwpiau sydd wedi’u heithrio ohoni.
3. yn nodi bod y ddogfen hefyd yn cynnig trethi newydd i Gymru i ariannu’r cynigion, gan gynnwys treth ar AirBnB a thwristiaeth; uwch-dreth ar elw landlordiaid ac ail gartrefi ac ardoll ar gwmnïau digidol a thelathrebu
4. yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu’r polisïau hyn a gweddill y cynigion yn y ddogfen cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, a sicrhau bod y Llywodraeth nesaf yn gweithredu agenda mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb.
Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith
3. 'Bargen Wledig' i Gymru
(noder: derbyniwyd gwelliant i'r cynnig hwn sydd wedi'i dderbyn gan y cynigydd felly'r cynnig sy'n sefyll yw'r cynnig wedi'i wella)
Cynnig Gwreiddiol
Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Bargen Wledig i Gymru i gyfateb i'r holl fuddsoddiad yn y Bargeinion Dinasoedd Rhanbarth, ac er mwyn amddiffyn cymunedau gwledig Cymraeg sydd dan fygythiad o bob cyfeiriad.
Byddai Bargen Wledig yn:
(a) sefydlu Cronfa Prynu Tai ar y farchnad i'w rhentu i bobl leol, a chytundebau rhan-berchnogaeth
(b) sefydlu Cronfa Hybu Mentrau Cydweithredol ym maes hamdden a gweithgareddau awyr agored i gynhyrchu incwm o fanteisio ar ein hadnoddau naturiol
(c) cymorth i gynnal gwasanaethau gwledig hyfyw, e.e. ysgolion, siopau, etc
(ch) cymorth i gefnogi amaeth teuluol yn wyneb her Brecsit.
Gwrthodwn y syniad y bydd buddsoddiad mewn ardaloedd trefol yn dod â budd otomatig i gymunedau gwledig o'u cwmpas ac, er tegwch, galwn am fuddsoddiad wedi ei deilwra at anghenion cymunedau gwledig.
Cynigydd: Ffred Ffransis
Eilydd: Elfed Wyn Jones
Gwelliant (a gynigiwyd gan Senedd y Gymdeithas)
Ychwanegu ar ddechrau’r cynnig:
Nodi bod Bargeinion Dinesig Llywodraethau Prydain a Chymru fel maent yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn seiliedig ar wreiddio polisïau economaidd neoryddfrydol sy’n niweidiol i’n cymunedau, gan gronni buddsoddiad mewn ardaloedd trefol a rhoi ardaloedd gwledig dan anfantais, heb chwaith ddod â budd i bobl gyffredin ein dinasoedd.
Ychwanegu ar ôl pwynt (ch):
(d) sefydlu dyletswydd ar y Llywodraeth i hybu twf economaidd a lledaenu ffyniant ledled y wlad.
Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i fabwysiadu model economaidd newydd fydd yn dod â budd i bob rhan o’r wlad ac wedi’i seilio ar roi lles ein pobl, cymunedau a’r amgylchedd cyn elw. Dylai hyn gynnwys gweithredu’r cynigion polisi yn ein dogfen weledigaeth Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb i gryfhau economi a chymunedau ein hardaloedd gwledig.
Cynnig wedi'i wella
Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn nodi bod Bargeinion Dinesig Llywodraethau Prydain a Chymru fel maent yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn seiliedig ar wreiddio polisïau economaidd neoryddfrydol sy’n niweidiol i’n cymunedau, gan gronni buddsoddiad mewn ardaloedd trefol a rhoi ardaloedd gwledig dan anfantais, heb chwaith ddod â budd i bobl gyffredin ein dinasoedd.
Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Bargen Wledig i Gymru i gyfateb i'r holl fuddsoddiad yn y Bargeinion Dinasoedd Rhanbarth, ac er mwyn amddiffyn cymunedau gwledig Cymraeg sydd dan fygythiad o bob cyfeiriad.
Byddai Bargen Wledig yn:
(a) sefydlu Cronfa Prynu Tai ar y farchnad i'w rhentu i bobl leol, a chytundebau rhan-berchnogaeth
(b) sefydlu Cronfa Hybu Mentrau Cydweithredol ym maes hamdden a gweithgareddau awyr agored i gynhyrchu incwm o fanteisio ar ein hadnoddau naturiol
(c) cymorth i gynnal gwasanaethau gwledig hyfyw, e.e. ysgolion, siopau, etc
(ch) cymorth i gefnogi amaeth teuluol yn wyneb her Brecsit
(d) sefydlu dyletswydd ar y Llywodraeth i hybu twf economaidd a lledaenu ffyniant ledled y wlad.
Gwrthodwn y syniad y bydd buddsoddiad mewn ardaloedd trefol yn dod â budd otomatig i gymunedau gwledig o'u cwmpas ac, er tegwch, galwn am fuddsoddiad wedi ei deilwra at anghenion cymunedau gwledig.
Galwn ar Lywodraeth nesaf Cymru i fabwysiadu model economaidd newydd fydd yn dod â budd i bob rhan o’r wlad ac wedi’i seilio ar roi lles ein pobl, cymunedau a’r amgylchedd cyn elw. Dylai hyn gynnwys gweithredu’r cynigion polisi yn ein dogfen weledigaeth Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb i gryfhau economi a chymunedau ein hardaloedd gwledig.
Cynigydd: Ffred Ffransis
Eilydd: Elfed Wyn Jones
4. Ymwneud â phleidiau gwleidyddol
1. Cadarnha’r Cyfarfod Cyffredinol:
(i) Ein bod, fel mudiad, yn credu mewn creu cymdeithas gynhwysol, sy'n croesawu pobl i'n gwlad waeth beth eu cefndir a hunaniaeth. Dylai'r Gymraeg a Chymru gynnwys a chroesawu pawb.
(ii) Ni ddylem fel mudiad ymwneud â phleidiau gwleidyddol sy’n hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn unrhyw grŵp yn ein cymdeithas megis pobl LHDT+, pobl groenliw, mudwyr a merched.
2. Noda’r Cyfarfod Cyffredinol:
(i) fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng pleidiau sy’n hybu neu oddef ideoleg adain dde eithafol ac agweddau rhagfarnllyd, a phleidiau gwleidyddol sydd ag aelodau sy’n arddel yr agweddau hynny, yn groes i bolisi a gweithredoedd swyddogol y blaid
(ii) fod rhai pleidiau wedi dangos patrwm o weithredoedd sy’n dangos eu bod yn cyrraedd o drothwy a nodir ym mhwynt 1(ii) uchod.
3. Yn unol â’r safbwyntiau uchod, ni fydd y Gymdeithas felly yn ymwneud â’r BNP, Britain First, Gwlad Gwlad, UKIP na Phlaid Brecsit.
4. Galwn yn ychwanegol ar holl bleidiau Cymru i fynd ati’n rhagweithiol i addysgu eu haelodau etholedig, aelodau cyffredin ac ymgeiswyr ar bwysigrwydd cydraddoldeb a herio agweddau rhagfarnllyd lle mae’r rhain yn codi.
Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith
Dolenni Perthnasol / Gwybodaeth gefndirol:
https://cymdeithas.cymru/newyddion/cynulliad-yn-rhwystro-mudiad-iaith-rhag-rhoi-tystiolaeth
5. Rhagrith Llywodraeth Cymru ar bwerau darlledu i Gymru
Nodwn:
(i) ddatganiadau blaenorol Dafydd Elis Thomas AS yn cefnogi trosglwyddo pwerau darlledu i Gymru
(ii) bod Dafydd Elis-Thomas AS, fel y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru gyda phortffolio sy'n cynnwys materion darlledu, wedi dweud yn ddiweddar mewn cyfarfod gyda dirprwyaeth o'r Gymdeithas ei fod yn cytuno mewn egwyddor gyda datganoli pwerau darlledu i Gymru
(iii) bod nifer o wleidyddion yn y Senedd, sy'n cynrychioli pleidiau nad ydynt gyda pholisi o blaid pwerau darlledu i Gymru, yn cwyno'n aml am ddiffygion a cham-adrodd straeon pan ddaw hi at faterion datganoledig.
Felly, collfarnwn Lywodraeth Cymru, a Dafydd Elis Thomas AS yn benodol, am eu methiant i weithredu, eu rhagrith a'u geiriau gweigion ar y materion hyn.
Galwn ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu sicrhau pwerau darlledu i Gymru.
Cynigir gan y Grŵp Dyfodol Digidol
6. Rhwystro newid enwau tai Cymraeg
Nodwn:
-
mae newid enwau tai Cymraeg (i enwau Saesneg gan amlaf) yn bwnc llosg
-
mae hyn yn dileu treftadaeth ein cymunedau ac yn lleihau amlygrwydd a gweladwyedd y Gymraeg
-
mae nifer o berchnogion tai yn pryderu am beth fydd yn digwydd i'r hen enwau ar ôl iddynt gwerthu'r tŷ
-
mae modd cynnwys cymal mewn cytundeb gwerthu i wahardd y perchnogion newydd (a'r rhai ar eu hôl) rhag newid enw'r tŷ. I gyflawni hyn, mae angen rhywun i fod yn ceidwad i'r cyfamod.
Credwn:
-
bydd nifer sylweddol o berchnogion eiddo yn croesawu'r cyfle hwn
-
yn ogystal â gwarchod enwau rhai tai o gwmpas Cymru, gall hyn helpu rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar y pwnc.
Penderfynwn:
-
annog perchnogion tai/eiddo i gynnwys cymal mewn cytundeb gwerthu na allai'r perchnogion newydd newid enw'r tŷ/eiddo
-
cynnig y Gymdeithas fel ceidwad i'r cyfamodau.
Cynigir gan y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy
7. Gwarchod democratiaeth Cymru
1. Cadarnha Senedd y Gymdeithas:
(i) ein bod, fel mudiad, yn credu mewn Cymru Rydd
(ii) fod pobl Cymru wedi rhoi eu cydsyniad dros ddatganoli mewn dwy refferendwm (1997 a 2011), a phump etholiad (ble enillodd pleidiau oedd o blaid datganoli y mwyfafrif o’r seddi a’r pleidleisiau)
(iii) fod datganoli wedi bod yn gadarnhaol i’r Gymraeg (er gwaethaf methiannau Llywodraeth Cymru parthed yr iaith).
2. Noda’r Senedd:
(i) fod y Llywodraeth Brydeinig bresennol eisoes wedi canoli rhai pwerau gwleidyddol yn San Steffan
(ii) fod Llywodraeth y DU, yn ei chynlluniau ar gyfer deddf newydd ar farchnad fewnol y DU (a’u cyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2020), yn bwriadu canoli nifer o bwerau mewn amryw o feysydd datganoledig, o’r economi ac isadeiledd i amaeth a safonau bwyd, yn San Steffan
(iii) fod yr uchod yn ymosodiad gwbl anemocrataidd ar ddatganoli yng Nghymru (gyda Llywodraeth a Senedd etholedig Cymru yn erbyn y cynlluniau hyn), a'i fod yn gwneud yn anoddach i gyflawni ein nod o Gymru Rydd.
3. Yn unol â’r safbwyntiau uchod, bydd y Gymdeithas yn:
(i) ymgyrchu i warchod democratiaeth Cymru, gan ei gwneud yn glir na fyddwn yn derbyn unrhyw sefyllfa ble fydd pwerau yn symud o’n Senedd genedlaethol i San Steffan.
Cynigir gan Ranbarth Gwynedd-Môn
8. Cymraeg – Iaith Hamdden
Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn datgan ein siom fod y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon wedi amlygu nad oes bwriad gan y Llywodraeth bresennol i symud tuag at wneud y Gymraeg yn brif iaith Hamdden a Chwaraeon yng Nghymru. Galwn ar bleidiau gwleidyddol sydd ag uchelgais i ffurfio'r llywodraeth nesaf i fabwysiadu amcanion yr ymgyrch.
Galwn am ddwysau'r ymgyrch yn ystod y flwyddyn nesaf trwy rannu'r amcanion fel a ganlyn.
(i) Gofynnwn i'r Grŵp Addysg gymryd cyfrifoldeb am yr amcan gyntaf "i hybu symudiad at ddysgu Chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru – mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i drefnu hyfforddiant mewn swydd i athrawon".
(ii) Gofynnwn i'r Grŵp Hawl gymryd cyfrifoldeb am yr ail amcan "i drafod gyda Chyrff Chwaraeon Cenedlaethol fod Cyrsiau Hyfforddi yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg a bod gweinyddiaeth y cyrff yn gwbl ddwyieithog – mewn cydweithrediad â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a gweithredu i gynnwys y Cyrff Chwaraeon Cenedlaethol yn y safonau iaith”.
(iii) Gofynnwn i'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy gymryd cyfrifoldeb am y drydedd amcan "i sefydlu'n arbennig Gronfa Gweithgareddau Awyr Agored – a fydd yn gallu rhoi grantiau a benthyciadau i helpu sefydlu mentrau cydweithredol i drefnu gweithgareddau awyr agored Cymraeg ac ar gyfer ymwelwyr, gan ddefnyddio adnoddau naturiol Cymru i greu swyddi ar gyfer pobl ifainc lleol”. Caiff hwn ei weithredu dan ymgyrch dros 'Fargen Wledig' i Gymru os caiff y cynnig hwnnw ei basio gan y Cyfarfod Cyffredinol.
(iv) Rhoddwn yr hawl i Senedd y Gymdeithas i gyfethol aelod os bydd ymgyrch sydd naill ai tu allan i fframwaith ein grwpiau ymgyrchu cyfredol neu, fel yn yr achos hwn, yn draws-ffiniol. Yng nghyd-destun yr ymgyrch hon, swyddogaeth yr aelod portffolio fyddai codi proffil yr ymgyrch gyfan 'Cymraeg – Iaith Hamdden' a helpu'r tri grŵp ymgyrchu gyda'r amcanion unigol.
Cynigydd: Ffred Ffransis
Eilydd: Bethan Williams
9. Yr argyfwng tai
Noda’r Cyfarfod Cyffredinol:
-
yn sgil pandemig byd-eang COVID-19, gwelwyd amlygu eto’r broblemau’r farchnad dai a’i effaith ar gymunedau Cymru, ac felly ar y Gymraeg. Dengys ffigyrau gan Awdurdod Refeniw Cymru fod 40% o’r tai a brynwyd yng Ngwynedd rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020 wedi eu prynu i fod yn ail-gartrefi neu’n dai haf.
Creda’r Cyfarfod Cyffredinol:
-
bod pandemig COVID-19 wedi dwysáu’r argyfwng dai, a gwaethygu sefyllfa oedd yn ddyrys a diobaith i bobl ifanc nag oedd eisoes
-
bod angen i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a chymdeithas sifig gydnabod bod argyfwng eiddo yng Nghymru, a bod angen gweithredu ar frys drwy ddeddfau sy’n gweithio o blaid cymunedau lleol ac yn erbyn y farchnad rydd sydd yn prysuro marwolaeth cymunedau hyfyw a Chymraeg.
Penderfyna’r Cyfarfod Cyffredinol:
-
galw ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gynnal ymchwiliad i’r argyfwng a fydd yn cael effaith dybryd ar allu pobl ifanc i fyw yn eu cymunedau yn y dyfodol
-
galw ar Gynghorau Sir a Chymuned i ddatgan bod argyfwng
-
galw ar bob plaid i flaenoriaethu mynd i’r afael â’r argyfwng yn eu maniffestos ar gyfer Etholiad 2021
-
galw ar bawb i bwyso am 6 phwynt deddf eiddo fel cam cyntaf i fynd i’r afael â’r argyfwng.
Cynigir gan Ranbarth Gwynedd-Môn
10. Mae bywydau du o bwys
Yn cynnig bod y Cyfarfod Cyffredinol:
-
yn nodi ac yn ail-gymeradwyo’r cynnig a basiwyd gan Gyfarfod Cyffredinol 2018, ‘Sefyll yn erbyn hiliaeth’, oedd yn datgan bod y frwydr dros gyfiawnder i’r Gymraeg ynghlwm â’r frwydr dros gyfiawnder hil, dadgoloneiddio a chyfiawnder i bob grŵp sy’n profi gormes, ac yn galw ar aelodau’r Gymdeithas i weithio i amlygu a mynd i’r afael â’r materion hyn
-
yn datgan bod Cymdeithas yr Iaith yn cydsefyll â’r mudiad byd eang Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter) yn erbyn hiliaeth, goruchafiaeth wen, imperialaeth a thrais yr heddlu
-
yn nodi bod dogfen weledigaeth newydd y Gymdeithas, Mwy na miliwn – dinasyddiaeth Gymraeg i bawb, yn cynnwys polisïau i fynd i’r afael â’r rhwystrau mae rhai grwpiau, a phobl groenliw yn benodol, yn eu hwynebu o ran mynediad at ddysgu a defnyddio’r Gymraeg
-
yn nodi pwysigrwydd cynnwys pobl groenliw ac ystyriaeth o’r materion sy’n effeithio arnynt yn ein gwaith ni fel mudiad, a bod rhaid cymryd rhagor o gamau cadarnhaol i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyson
-
yn galw ar Senedd y Gymdeithas, ein grwpiau ymgyrchu, celloedd a rhanbarthau, a’n holl aelodau, i gymryd agwedd ragweithiol tuag at wrthwynebu hiliaeth o bob math ac archwilio ffyrdd o gynnwys rhagor o bobl groenliw yn ein gwaith a sicrhau bod y materion sy’n effeithio arnynt yn cael eu hystyried yn llawn.
Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith
Gwybodaeth gefndirol: Penderfyniad ‘Sefyll yn erbyn hiliaeth’ 2018
-
nodi twf yr adain dde eithafol ar draws y byd, y cynnydd mewn troseddau casineb ar sail hil a normaleiddio sylwadau rhagfarnllyd ym mywyd cyhoeddus
-
nodi er bod y Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru, mae cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn tueddu cael eu cau allan o’r Gymraeg yn ein system addysg a bod rhaid i hyn newid
-
cymeradwyo safiad Cymdeithas yr Iaith i beidio ag ymwneud ag Ukip a phleidiau arall ar y dde eithafol oherwydd eu safbwyntiau rhagfarnllyd, ac yn galw eto ar eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru i wneud yr un safiad
-
gwrthod yr alwad gan rai ar ymgyrchwyr dros y Gymraeg a Chymru i beidio ag ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar grwpiau dan ormes, a’r honiad bod y materion yma’n rhai ‘ymylol’
-
datgan bod Cymdeithas yr Iaith yn sefyll yn erbyn pob math o hiliaeth, a bod y frwydr dros gyfiawnder i’r Gymraeg ynghlwm â’r frwydr dros gyfiawnder hil, dadgoloneiddio a chyfiawnder i bob grŵp sy’n profi gormes; mae gan bob un ohonom sy’n rhan o’r frwydr, a Chymdeithas yr Iaith fel mudiad, gyfrifoldeb dros ddadansoddi ac amlygu’r cysylltiadau hyn
-
galw ar sefydliadau cyhoeddus Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â hiliaeth a than-gynrychiolaeth cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn ein bywyd cyhoeddus
-
galw ar Senedd y Gymdeithas, ein grwpiau ymgyrchu, celloedd a rhanbarthau, a’n holl aelodau, i gymryd agwedd rhagweithiol tuag at herio hiliaeth a chymryd cyfleoedd i gyd-sefyll â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
11. Strwythur a thâl aelodaeth y Gymdeithas
Yn cynnig:
- symleiddio’r strwythur aelodaeth a chreu dau gategori, sef Aelodaeth, ac Aelodaeth Ostyngol. Bydd aelodaeth ostyngol ar gael i “e.e. disgyblion, myfyrwyr, pensiynwyr, pobl ar incwm isel”, ond enghreifftiau yw’r rhain ac nid rhestr gynhwysfawr, a fydd dim gofyn i neb brofi eu statws er mwyn cael aelodaeth ostyngol.
- newid y tâl aelodaeth a chodi isafswm o £2 y mis ar gyfer aelodaeth gyffredin a £1 y mis ar gyfer aelodaeth ostyngol. Aelodaeth i’w thalu’n fisol fydd y dewis diofyn o hyn ymlaen yn hytrach nag aelodaeth blwyddyn.
- bod y strwythur a’r ffioedd newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021.
Cynigir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith