14/09/2013 - 11:00
Dyma gyfle i ddod i drafod materion sydd yn ymwneud a'r Gymraeg yn y rhanbarth. Dewch i rannu'ch syniadau am y problemau sy'n wynebu'r Gymraeg yn eich ardal a gweld sut gall Cymdeithas yr Iaith gyda'ch help chi newid y sefyllfa.
Byddwn yn cynnal cyfarfod lle byddwn yn trafod trywydd y rhanbarth, yn ethol swyddogion ac yn edrych ar gynigion i fynd gerbron Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ym mis Hydref. Bydd barbeciw ar ol y cyfarfod er mwyn i bawb gael cyfle i gymdeithasu.
Lleoliad: Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd, CF24 3AJ
Amser: 11yb - 3yh
Dewch a bwyd eich hun i'r barbeciw