Cyfarfod Rhanbarth Caerfyrddin

06/01/2014 - 19:30
 
Byddwn ni'n cwrdd yn nhafarn y Phoenix, Gorslas ar nos Lun y 6ed o Ionawr am 7.30.
 
Dere i glywed y diweddaraf am yr adeiladu at barti mawr ar stondin Cyngor Sir Gaerfyrddin yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd dau ddigwyddiad fydd yn holi pa iaith mae'r Cyngor yn gwneud ei waith ac a yw gwersi nofio ar gael yn Gymraeg yn sir Gaerfyrddin yn rhan o hyn – dere i helpu eu trefnu.
Er i rai arwyddion Cymraeg gael eu codi yn Marks and Spencer Caerfyrddin faint sydd wedi newid o ddifrif? Byddwn ni'n mynd am drip siopa arbennig i weld – mwy o fanylion yn y cyfarfod.
 
Gan ein bod ni'n cwrdd lawr yn y Phoenix yng Ngorslas bydd rhai ceir yn mynd o Gaerfyrddin – fyddi di angen lifft? Rho wybod i bethan: 01559 384378 / 07981 343313 neu bethan@cymdeithas.org