Dysgu am y dull ymgyrchu di-drais gyda Ffred Ffransis - Cyfarfod Cyngor

05/01/2019 - 10:30

Dysgu am y dull ymgyrchu di-drais gyda Ffred Ffransis

10.30, dydd Sadwrn, 5 Ionawr

Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth

Byddwn yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda chyfarfod o Gyngor y Gymdeithas. Dyma'r pwyllgor sy'n cwrdd bob tri mis i oruchwylio ein holl waith. Mae croeso i bob aelod ddod i'r cyfarfodydd a chyfrannu atynt.

Yn ystod y prynhawn, bydd sesiwn hyfforddi ar y dull ymgyrchu di-drais o dan ofal Ffred Ffransis. Bydd y sesiwn yn cychwyn am ddau o'r gloch – cysylltwch os hoffech ddod neu i gael gwybodaeth bellach.

01970 624501 / post@cymdeithas.cymru