Pebyll
£60 y pen am wythnos, neu £12 y noson. Lleoliad agos iawn i'r maes (map isod).
Carafanau (nifer cyfyngedig)
£150 am safle carafan a thocyn wythnos i ddau berson.
Lleoliad agos iawn i'r maes (map isod). Rhaid prynu tocyn gwersylla ychwanegol os oes mwy na dau berson am aros yn y garafan. Dim ond dau fand garddwrn sy’n dod gyda safle carafan. Ni fydd modd cael mynediad i’r maes gwersylla heb fand garddwrn.
e.e. Os oes 4 person am aros mewn un garafan am wythnos, rhaid prynu safle carafan am £150, a 2 docyn gwersylla wythnos am £60 yr un hefyd.
e.e. Os oes 2 oedolyn am aros mewn un garafan, gydag oedolyn arall yn ymuno am ddwy noson, rhaid prynu safle carafan i ddau (£150) a dau docyn gwersylla noson i’r oedolyn ychwanegol (£12x2).
Noder bod mynediad am ddim i blant o dan 12 oed.
NID oes cyfleusterau trydan na dŵr sy'n cysylltu i garafanau.
Gwybodaeth ychwanegol
- Mynediad am ddim i blant o dan 12 oed.
- Bydd cae i barcio ceir.
- Nid yw'r prisiau hyn yn cynnwys mynediad i'r gigs. Rhaid archebu'r rhain ar wahân.
Lleoliad
Fferm Tyddyn Hen, LL26 0PT, oddi ar yr A470 ar y ffordd i mewn i Lanrwst o gyfeiriad y De.
5 munud ar droed o’r maes, 10 munud ar droed o’r dre (pafin yr holl ffordd)
Archebu
Cliciwch yma i archebu tocynnau: cymdeithas.cymru/gwersylla